Oriel Amlgyfrwng Yr Hen Goleg

Yr Atriwm Ebrill 2025

Bydd yr atriwm newydd, a fydd yn ymestyn dros saith llawr, yn cynnig mynediad hawdd i bob lefel o’r Hen Goleg am y tro cyntaf ers ei adeiladu dros 160 mlynedd yn ôl. Ar ddechrau Ebrill, cyrhaeddodd y gwaith lefel y ddaear ac mae'r lluniau yma yn dal y daith hyd yn hyn.

Golygfa o’r hen Adeilad Ystadau (gwyn) wrth edrych tuag at Heol y Wig.
Yr olygfa o Stryd y Brenin wrth i’r gwaith ar y ddwy fila Sioraidd fynd yn ei flaen.
Tynnu scaffaldiau yng nghefn y ddwy fila Sioraidd.
Gwaith paratoi’r mat ar gyfer gosod pileri concrit.
Gorffen gosod a phrofi’r mat cyn gosod y pileri concrit.
Dechrau’r gwaith o osod y pileri concrit.
Gosod y pileri concrit.
Dechrau cloddio’r islawr.
Cloddio’r islawr.
Datgelu darnau uchaf y pileri concrit er mwyn paratoi i osod trawst concrit ar eu pennau.
Gosod ‘shotcrete’ ar wal y Cambria er mwyn sefydlogi’r gwaith carreg islaw lefel y ddaear.
Gosod ‘shotcrete’.
Atgyfnerthu seiliau’r ddwy fila er mwyn caniatáu cloddio pellach o’r islawr i’r lefel angenrheidiol.
Atgyfnerthu seiliau’r Cambria.
Atgyfnerthu seiliau’r ddwy fila’n parhau.
Cloddio’r islawr yn parhau.
Codi gweddill y deunydd.
Nodi cwblhau’r gwaith o gloddio’r islawr ar safle’r atriwm – Tachwedd 2024.
Dechrau gosod y ffrâm ddur fydd yn atgyfnerthu slab concrit yr islawr.
Arllwys y concrit ar gyfer y slab.
Gosod y ffrâm ddur sy’n atgyfnerthu waliau’r islawr.
Parhau i osod y ffrâm ddur sy’n atgyfnerthu waliau’r islawr.
Gosod y ffrâm ddur sy’n atgyfnerthu slab  y llawr gwaelod.
Aelodau o staff Andrew Scott Cyf, Prif Gontractwr Prosiect yr Hen Goleg, a’r is-gontractwr M&C Civils, yn nodi cwblhau slab concrit llawr gwaelod yr atriwm – Ebrill 2025.

Oriel Toi - Mawrth 2025

Tyredau De Seddon cyn i’r gwaith ddechrau.
Y gwaith coed o dan y llechi, cyn dechrau tynnu rhannau sydd wedi pydru.
Y ffinial gwreiddiol ar y prif dyred sydd wedi dirywio dros y blynyddoedd.
Y ffinial ar un o’r ddau tourelle (tyrau bachain) sydd hefyd wedi dirywio.
Y ffinial gwreiddiol ar y prif dyred sydd wedi dirywio dros y blynyddoedd.
Cofnodi manylion y tyredau cyn dechrau’r gwaith.
Cofnodi manylion y tyredau cyn dechrau’r gwaith.
Glanhau’r gwaith coed ar y prif dyred.
Glanhau’r gwaith coed ar y prif dyred.
Tu mewn i’r prif dyred.
Diogelu rhag y tywydd: Bu rhaid gosod a thynnu gorchuddion dros dro ar y tyredau i’w hamddiffyn rhag cawodydd glaw a stormydd sylweddol yn gyson yn ystod y gwaith.
Gosod y cafnau haearn cast wedi eu hadnewyddu yn eu lle.
Y prif tyred wedi’i orchuddio gyda choed ac yn barod ar gyfer y llechi
Y gwaith coed a phlwm newydd yn ei le yn barod ar gyfer gosod cafnau haearn cast yn eu lle.
Coed newydd ar y prif tyred.
Gosod y llechi gwyrdd newydd yn eu lle. Daw rhain o Vermont yn yr Unol Daleithiau gan nad yw’r llechi gwyrdd gwreiddiol o Ddyffryn Nantlle ar gael mwyach.
Y gwaith llechi gyda’r cafnau haearn cast yn eu lle.
Gosod y llechi yn eu lle.
Y tyredau gyda’r gwaith toi yn mynd yn ei flaen.
Y tyredau gyda’r gwaith toi yn mynd yn ei flaen.
Y tyredau gyda’r gwaith toi yn mynd yn ei flaen.
Llechi newydd ar y prif dyred yn dangos llofnod Greenough a blwyddyn eu gosod.
Aelodau o dîm Greenough & Sons sy’n ail-doi’r Hen Goleg.
Nodi gosod y llechen olaf yn eu lle ar y 5ed o Fawrth 2025 (chwith I’r dde) Jon Greenough (Greenough & Sons); Neil Cains (Andrew Scott Ltd); Matthew Dyer (Austin Smith Lord), Jim O’Rourke ( Prifysgol Aberystwyth) a Calum Duncan (Andrew Scott).