Hanes
Mae'r Hen Goleg yn adeilad hynod ag iddo hanes hynod.
Pan ddechreuodd y gwaith adeiladu yn ôl yng nghanol y 19eg ganrif, y bwriad oedd codi gwesty crand ar lan y môr. Ond fel mae'r awdur lleol Elgan Philip Davies yn egluro, chafodd y cynlluniau uchelgeisiol hynny ar gyfer yr adeilad mo'u gwireddu.
Bwriadwyd yr Hen Goleg yn wreiddiol i fod yn westy rheilffordd crand, Gwesty’r Castell. Cafodd ei adeiladu o gwmpas Tŷ’r Castell a gynlluniwyd yn y 1790au gan John Nash ar gyfer Syr Uvedale Price. Prynwyd Tŷ’r Castell yn 1864 gan Thomas Savin, yr entrepreneur rheilffyrdd, a chomisiynodd y pensaer J. P. Seddon i’w drawsnewid yn westy, y cyntaf o nifer y bwriadai eu hadeiladu ar hyd arfordir Bae Ceredigion yn rhan o dwf teithio a thwristiaeth yn y 19eg ganrif. Ond cafodd trafferthion y Gyfnewidfa Stoc yn 1865 effaith enbyd ar Savin, a methiant fu ei fenter.
Yn 1867 prynwyd yr adeilad gan Bwyllgor y Brifysgol am £10,000 fel cartref cyntaf Prifysgol Cymru a gofynnwyd i Seddon gwblhau cymaint o’r adeilad ag y byddai cyllid y Pwyllgor yn ei ganiatáu. Agorodd y coleg ar 16 Hydref 1872 gyda thri aelod o staff a 26 o fyfyrwyr.
Erbyn 1884 roedd y nifer y myfyrwyr wedi cynyddu i dros gant ac roedd y ferch gyntaf wedi cael ei derbyn. Roedd y coleg yn tyfu, ond ar noson 9 Gorffennaf 1885 ffrwydrodd canister o ocsigen yn y labordy cemeg yn nho adain ogleddol yr adeilad. Dim ond Tŷ’r Castell a’r adain ddeheuol – yr oedd Seddon wedi bwriadu eu trawsnewid – a oroesodd y tân. Credai llawer mai hyn fyddai diwedd y coleg yn Aberystwyth, ond cymaint oedd cefnogaeth pobl Cymru i’r sefydliad ieuanc, trwy fân roddion unigol, ymgyrch codi arian a’r arian yswiriant, fel y galluogwyd awdurdodau’r coleg i gyflogi Seddon i adnewyddu’r adeilad. Dyma pryd y crëwyd y Cwad, y cwblhawyd yr Hen Neuadd, ac adeiladu’r Llyfrgell uwch ei phen. Roedd hwn hefyd yn gyfle i Seddon ailadeiladu’r adain ddeheuol fel bloc gwyddoniaeth a gosod mosaig triptych C. F. Voysey yn cydnabod gwybodaeth bur o gwmpas y tŵr ar y pen. Yn 1896 codwyd bloc canolog pedwar llawr wedi’i gynllunio gan C. J. Ferguson i gymryd lle Tŷ’r Castell. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am gynllunio Neuadd Alexandra. Ar ochr Stryd y Brenin yr adeilad mae’r tŵr crwn yn asio â chynllun Seddon, tra bod y llinellau syth ar ochr y môr mewn gwrthgyferbyniad ond eto yn ategu’r llinellau crymion a’r bwâu gwreiddiol.
Fel Coleg Prifysgol cyntaf Cymru, daeth yr Hen Goleg yn gartref i ddysgu ac ymchwil arloesol, i lawer o’r adrannau cyntaf o’u bath yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, ac i gyfleoedd i fyfyrwyr gael eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd yr Hen Goleg yn adeilad amlwg ac yn elfen holl bwysig o’r berthynas rhwng y brifysgol a’r dref, yn ogystal â bod yn fan lle gallai myfyrwyr, staff a’r gymuned gwrdd i rannu gwybodaeth, croesawu ymwelwyr a mwynhau gweithgareddau megis darlithoedd cyhoeddus, perfformiadau cerddorol a chorau a chlybiau.
Ymffurfiodd ein gweledigaeth i drawsnewid yr adeilad yn 2014, pan symudodd gweddill ein hadrannau academaidd o’r Hen Goleg i gampws pwrpasol y Brifysgol ar gopa rhiw Penglais, â’i olygfeydd trawiadol uwch tref Aberystwyth. Mewn astudiaeth ddichonoldeb ar y cyd rhwng y Brifysgol a Llywodraeth Cymru y flwyddyn honno, cafwyd tystiolaeth o’r angen strategol am adnoddau newydd ar raddfa helaeth ar gyfer y Brifysgol a chymuned y dref. Roedd trawsnewid yr Hen Goleg yn adnodd amlddefnydd yn gyfle unigryw i wireddu hynny, a hefyd ysgogi adfywiad cymdeithasol ac economaidd yn un o ranbarthau difreintiedig y Deyrnas Unedig.
Gan Elgan Philip Davies