Delweddau a Cynlluniau

Pan fydd wedi’i gwblhau yn 2026, bydd yr Hen Goleg yn cynnwys 143 o ystafelloedd dros saith llawr a chwe 'pharth' hygyrch a chydgysylltiedig.  Bydd hyn yn creu canolfan a fydd yn fwrlwm o gyfleoedd i'r Brifysgol, ei myfyrwyr, ei staff, ymwelwyr, y gymuned leol a Chymru gyfan. 

Diolch i AMP Digital, crëwyd sganiau 3D o’r tu mewn i’r adeiladau hanesyddol hynod hyn cyn i'r gwaith ddechrau ar y prosiect trawsnewidiol hwn. 

Cliciwch ar y dolenni i weld y gofodau 3D enfawr hyn yn yr Hen Goleg (De a Gogledd) a'r Y Cambria.

Mae'r delweddau isod yn cynnig rhagolwg o'r cynlluniau ar gyfer yr Hen Goleg.  

Am fwy o fanylion, gweler Ddelwedd-lyfr yr Hen Goleg.

 

 

 

 

 

 

 

Byd o Wybodaeth

Bydd hyn yn cyfuno gweithgareddau i feithrin cyswllt â’r cyhoedd drwy ei Chanolfan Wyddoniaeth, oriel a sinema, ac arddangosfa yn adrodd hanes y Brifysgol. Mae'r parth yn cynnwys amrywiaeth o fannau cynhwysol a diogel ar gyfer pobl ifanc a mannau astudio hyblyg ar gyfer ein myfyrwyr. Bydd y parth hwn hefyd yn cynnwys Ffug Lys pwrpasol, y cyntaf o’i fath mewn prifysgol yng Nghymru, a fydd yn trawsnewid profiadau addysg a chyflogadwyedd myfyrwyr y Gyfraith a Throseddeg.  

Cymuned, Diwylliant, Croeso

Bydd y parth hwn yn ganolbwynt ar gyfer arddangosfeydd o gasgliadau'r Brifysgol ei hun, arddangosfeydd teithiol a gweithgareddau cymunedol, ac yn cynnig lleoliad trawiadol ar gyfer seremonïau a digwyddiadau yn y Llyfrgell. Bydd hefyd yn cynnwys y 31 ystafell wely gyntaf o’r unig ddarpariaeth 4-seren a fydd ar gael yn Aberystwyth.   

Cyfarfodydd a Thrafodaethau

Cartref y Ganolfan Deialog, a fydd yn dod ag ymchwilwyr ac aelodau o'r gymuned, byd gwleidyddiaeth a byd busnes at ei gilydd, fel partneriaid cyfartal, i ddatblygu dulliau gweithredu sy'n mynd i'r afael â heriau cymdeithasol.  Bydd y Ganolfan yn cynnig lle i drafod a dadlau ar gyfer:

  • Clybiau, cymdeithasau a sefydliadau ieuenctid allanol
  • Cynadleddau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol

Menter ac Arloesi

Yn cynnig 12 uned bwrpasol ar gyfer busnesau newydd, a fydd yn gallu manteisio ar gymorth gan staff y Brifysgol sy’n arbenigwyr yn eu pwnc. Bydd y mannau hyn yn: 

  • Annog busnesau newydd 
  • Ysbrydoli a grymuso unigolion i ddechrau eu busnes eu hunain 
  • Hybu'r economi leol 

Yr Atriwm a'r Ystafell Digwyddiadau

Bydd prif fynedfa newydd i'r Hen Goleg yn cael ei chreu trwy ddau dŷ Sioraidd gyferbyn â'r pier, gyda chaffi a bwyty. Ar ben y tai, bydd yna ystafell ddigwyddiadau ar gyfer hyd at 200 o westeion, lle ceir golygfeydd godidog ar y môr.  

Y Cambria

Bydd hyn yn cwblhau'r gwesty, gan gynnig 29 ystafell 4-seren arall ynghyd â bwyty, yn ogystal â mannau hyblyg i gynnal cyfarfodydd a gweithgareddau.