Casgliadau a Threftadaeth
Darllenwch am yr ymchwil i hanes a chasgliadau y brifysgol ar gyfer Bywyd Newydd i'r Hen Goleg.
Darllenwch am Aber yn Gafael, prosiect newydd cyffrous sy’n ymchwilio i Hanes a Chasgliadau Prifysgol Aberystwyth. Daw’r ymchwil hon yn rhan o’r orielau newydd yn yr Hen Goleg.
Gallwch wylio recordiadau o weminarau am hanes yr Hen Goleg:
-
"Cas gŵr na charo y wlad a’i maco”, Dr Calista Williams. Cyfle i glywed hanes taith Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth i Ogledd America i godi arian yn 1890.
-
“Aber yn Gafael gyda Cara Cullen a Julie Archer”. Cyfle i glywed am ymchwil Prifysgol Aberystwyth i’w hanes a’i chasgliadau ar gyfer ein horielau newydd cyffrous yn yr Hen Goleg.
- “Yr Annisgwyl yn Aberystwyth: rhannu straeon o archif y Brifysgol”, Julie Archer. Mynnwch gip ar archif y Brifysgol. Byddwn yn edrych ar rai o’r bobl a’r digwyddiadau sydd wedi cael eu dwyn i gof ac sydd wedi cael llwyfan o’r newydd yn sgil eitemau yn y casgliad.
- "O’r Coleg Ger y Lli i’r Coleg ar y Bryn – gan alw mewn ambell le arall ar y ffordd", Elgan Davies. Dyma hanes sut y daeth y Coleg Ger y Lli yn Goleg ar y Bryn.
Gwyliwch ragor o weminarau am hanes Prifysgol Aberystwyth.