Lleisiau’r Pridd - perfformiad 24-awr gan Miranda Whall
02 Awst 2023
Bydd Miranda Whall, sy’n ddarlithydd o'r Ysgol Gelf ac yn artist, yn 'rhoi llais i'r pridd' yn rhan o brosiect arloesol sy'n dangos sut y gall celf godi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd.
Rhyfel Wcráin: pam mae rhyfelwyr Tatar Crimea yn chwarae rhan gynyddol mewn ymwrthedd i feddiannaeth Rwsia.
03 Awst 2023
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Gerald Hughes o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod amlygrwydd cynyddol rhyfelwyr Tatar Crimea ym mrwydr Wcráin yn erbyn meddiannaeth Rwsia.
COVID yn achos ‘saib’ o ran datblygu sgiliau iaith - adroddiad
03 Awst 2023
Roedd rhai plant ysgol yn teimlo bod pandemig Covid wedi achosi “saib” o ran datblygu sgiliau Cymraeg, yn ôl ymchwil gan Brifysgolion Aberystwyth a Bangor.
Arddangosfa gelf yn amlygu heriau newid hinsawdd cymunedau Nambia
04 Awst 2023
Caiff arddangosfa gelf ei chynnal yn Aberystwyth yn ddiweddarach y mis hwn a fydd yn tynnu sylw at waith pentrefi yn Namibia i oresgyn heriau newid hinsawdd.
Prifysgol Aberystwyth ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol
07 Awst 2023
Can mlynedd o ddarlledu yng Nghymru, sut y gall twristiaeth gefnogi’r Gymraeg, yr heriau a’r cyfleodd sy’n wynebu pobl ifanc wrth ymgyrchu’n wleidyddol a dyfodol cyfansoddiadol Cymru, dyma rai o’r pynciau fydd yn cael sylw ar stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon.
Gwyddonwyr yn croesawu Strategaeth Biomas y DG
10 Awst 2023
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi croesawu Strategaeth Biomas Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol fel carreg filltir bwysig ar y llwybr tuag at economi sero net.
Astudiaeth newydd yn galw am newid yn y ffordd y mae penderfynwyr yn gwerthfawrogi byd natur
09 Awst 2023
Mae angen i’r gwahanol ffyrdd y mae natur yn cyfrannu at les cymdeithasol, diwylliannol ac ysbrydol pobl gael eu hadlewyrchu’n well mewn penderfyniadau gwleidyddol ac economaidd allweddol, yn ôl astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn blaenllaw Nature.
Prifysgol Aberystwyth ar y brig am foddhad myfyrwyr yng Nghymru
10 Awst 2023
Aberystwyth yw’r brifysgol orau yng Nghymru am foddhad myfyrwyr yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr sydd wedi ei gyhoeddi heddiw, ddydd Iau 10 Awst 2023.
Ehangu addysg nyrsio Aberystwyth gyda chymhwyster ar gyfer gweithwyr cymorth gofal iechyd
15 Awst 2023
Bydd addysg nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ehangu ym mis Medi gyda chymhwyster proffesiynol ar gyfer gweithwyr cymorth gofal iechyd a chymdeithasol.
Datgloi cyfrinach atal mewnfridio mewn planhigion a thaflu goleuni ar Darwin
16 Awst 2023
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi helpu i adnabod y genynnau sy’n atal planhigion rhag bridio â glaswelltau sy’n perthyn yn agos, gan gynnig cyfle i ddatblygu mathau gwell o reis, ŷd, siwgr a gwenith.
Menywod ifanc Pacistan yn derbyn mopediau, diolch i brosiect Prifysgol Aberystwyth
23 Awst 2023
Mae myfyrwyr benywaidd ifanc ym Mhacistan yn dysgu sut i yrru moped er mwyn rhoi mwy o annibyniaeth iddyn nhw a’u gwneud yn haws iddyn nhw gyrraedd eu man addysg, fel rhan o brosiect trafnidiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Pam mae dogfen o'r UE sy'n sôn am 'Islas Malvinas / Ynysoedd y Falkland' yn arwyddocaol
23 Awst 2023
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Jennifer Wood o'r Adran Ieithoedd Modern yn trafod goblygiadau datganiad diweddar gan yr Undeb Ewropeaidd sy'n cyfeirio at "Islas Malvinas/Ynysoedd y Falkland".
Galw am Luniau o Annibyniaeth gan Ffotograffwyr Ardal Caernarfon
29 Awst 2023
Mae ymchwilwyr yn chwilio am bobl o ardal Caernarfon sy’n mwynhau ffotograffiaeth i dynnu lluniau yn adlewyrchu sut maen nhw’n meddwl ac yn teimlo am annibynniaeth.