Arddangosfa gelf yn amlygu heriau newid hinsawdd cymunedau Nambia
Un o'r lluniau o’r ardal yn Nambia a gaiff eu dangos yn yr arddangosfa
04 Awst 2023
Caiff arddangosfa gelf ei chynnal yn Aberystwyth yn ddiweddarach y mis hwn a fydd yn tynnu sylw at waith pentrefi yn Namibia i oresgyn heriau newid hinsawdd.
Mae’r ffotograffau a gaiff eu dangos yng Ngwesty Cymru o’r 24 Awst tan ddiwedd mis Medi yn amlygu ymdrechion y gymuned Okondjatu a phentrefi cyfagos i adfer eu heco-systemau a gwella safonau byw.
Mae Nambia yn cael ei chydnabod fel gwlad sydd â’r hinsawdd sychaf yn Affrica Is-Sahara, gyda phatrwm glawio anwadal a chyfnodau o sychder cyson sy’n heriol i gymunedau lleol.
Mae llwyni yn tyfu dros laswelltir yn effeithio ar ecosystemau safana sych ledled y byd, gan fygwth eu bioamrywiaeth a bywoliaeth cymunedau lleol.
Yn Namibia yn unig, mae’n effeithio ar 45 miliwn hectar o dir amaethyddol. Mae rhanbarth Otjozondjupa, sy'n gartref i'r bobl Ovaherero, yn un o'r rhai a effeithir arni waethaf.
Fe weithiodd ymchwilwyr gydag un o’r ardaloedd cadwraeth yn y rhanbarth sydd â phwyllgor etholedig sy'n rheoli'r goedwig a'r adnoddau bywyd gwyllt. Ar y cyd â’r academyddion, mae'r gymuned yn ceisio defnyddio'r llwyn fel porthiant i dda byw a chynhyrchion eraill.
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cynorthwyo’r prosiect gyda grantiau ymchwil wedi’u trefnu gan y Ganolfan dros Ymchwil Datblygu Rhyngwladol yn Aberystwyth.
Mae'r lluniau a ddangosir yn yr arddangosfa yn amlygu'r cymeriadau, y bywyd gwyllt a'r heriau y mae'r gymuned yn eu hwynebu.
Un o’r trefnwyr yw Maria de la Puerta, myfyrwraig doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd wedi bod yn gweithio yn yr ardal ers dros 7 mlynedd. Fel rhan o brosiect ymchwil y Brifysgol, mae hi wedi bod yn edrych ar werth maethol llwyni lleol yn ogystal â’u hallyriadau tŷ gwydr. Dywedodd:
“Ein nod yw defnyddio grym celf i godi ymwybyddiaeth o effeithiau newid hinsawdd ac ymlediad llwyni, a’r bygythiadau y maen nhw’n eu hachosi i gymunedau lleol. Ond hefyd, er mwyn amlygu'r cymunedau lleol a’r ymchwilwyr sy’n gweithio gyda nhw i oresgyn yr heriau gan ddefnyddio ystod o strategaethau a thechnolegau arloesol. Yn ogystal, rydyn ni eisiau hybu cydweithio er mwyn i ni weithio gyda'n gilydd ar y materion hyn a materion eraill sy'n effeithio ar Namibia a De Affrica.”
Fe dynnwyd lluniau’r arddangosfa gan Monika Fraczek, cyn-fyfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth sy’n gweithio fel Prif Swyddog Cyfathrebu Ymgynghoriaeth Omeva. Dywedodd:
“Rwy’n defnyddio fy nghelf i godi ymwybyddiaeth ac addysgu am faterion hollbwysig fel diogelwch bwyd, lleddfu sychder neu newid hinsawdd. Dwi jyst yn angerddol am bobl a’u straeon.”
Caiff yr arddangosfa ei lansio am 6pm ar ddydd Iau 24 Awst yng Ngwesty Cymru ac yn cynnwys sgwrs gyda’r ymchwilwyr.