Menywod ifanc Pacistan yn derbyn mopediau, diolch i brosiect Prifysgol Aberystwyth
Myfyrwraig ar un o’r mopedau ym Mhacistan
23 Awst 2023
Mae myfyrwyr benywaidd ifanc ym Mhacistan yn dysgu sut i yrru moped er mwyn rhoi mwy o annibyniaeth iddyn nhw a’u gwneud yn haws iddyn nhw gyrraedd eu man addysg, fel rhan o brosiect trafnidiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dengys data fod nifer o fenywod ym Mhacistan yn rhoi’r gorau i’w hastudiaethau am eu bod yn wynebu aflonyddu a cham-drin rhywiol wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Nod y prosiect yw cynnig dewis amgen i drafnidiaeth gyhoeddus i fyfyrwyr benywaidd 18-25 oed drwy fenthyg moped iddyn nhw yn ystod eu cwrs prifysgol yn ogystal â darparu hyfforddiant a chefnogaeth.
Dywedodd Dr Shala Tabassum, Pennaeth Adran Astudiaethau Rhywedd Prifysgol Menywod Fatima Jinnah:
“Mae trafnidiaeth gyhoeddus ym Mhacistan wedi ei gynllunio’n bennaf ar gyfer dynion a dynion gan fwyaf sy’n ei ddefnyddio. Yn aml mae menywod ifanc yn wynebu aflonyddwch neu’n cael eu bychanu pan maen nhw’n dal bws neu drên, ac mae nifer yn penderfynu cefnu ar eu haddysg er mwyn gallu osgoi problemau cymudo fel hyn. Nod y prosiect yma yw chwalu ystrydebau a chael gwared ar rai o’r cyfyngiadau diwylliannol ar fenywod ifanc sy’n teithio o’u cartref i’r brifysgol ac yn ôl.”
Prynwyd pedwar moped fel rhan o’r prosiect ‘Cynyddu Symudedd Menywod Ifanc drwy Ddarparu Sgwteri’ ac mae criw o fyfyrwragedd eisoes wedi derbyn hyfforddiant.
Meddai’r fyfyrwraig Noor: “Rwy'n hynod ddiolchgar am y cyfle i gael fy newis ymhlith nifer o fyfyrwyr ac i dderbyn sgwter. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn aml yn cyflwyno heriau amrywiol a diffyg cysur, heb sôn am yr amser mae’n ei gymryd. Nawr, gallaf deithio'n annibynnol, yn rhydd o unrhyw aflonyddu neu anghyfleustra, a chofleidio'r rhyddid a ddaw yn ei sgil." Meddai'r fyfyrwraig Iqra: "Rwyf wrth fy modd gyda’r sgwter hwn sydd nid yn unig yn rhoi'r rhyddid i mi archwilio a theithio’r byd yn hwylus ond sydd hefyd yn symbol o annibyniaeth. Wrth i mi yrru tua'r dyfodol ar fy sgwter newydd, rwy'n benderfynol o barhau i wthio ffiniau, cwrso breuddwydion, a gwneud cyfraniad cadarnhaol i’m cymuned."
Mae’r prosiect sgwteri yn un o bedwar cynllun trafnidiaeth cymunedol i dderbyn grant gan y Rhwydwaith Ymchwil Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK), a arweinir gan yr Athro Charles Musselwhite o Adran Seicloleg a Chanolfan Trafnidiaeth a Symudedd (CeTraM) Prifysgol Aberystwyth, a Dr Sarah Jones, Ymgynghorydd ym maes Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywedodd yr Athro Musselwhite: “Fel rhwydwaith, roedd modd i ni gynnig grantiau bach i brosiectau peilot sy’n edrych ar gyfraniad trafnidiaeth tuag at greu cymuned iach. Yn ogystal â’r prosiect mopediau ym Mhacistan, rydyn ni’n falch iawn ein bod hefyd wedi gallu cynnig grantiau bach i dri phrosiect cydweithredol yng Nghymru.
“Fe ddylai’r egin gyllid yma arwain at ymchwil bellach er mwyn dyfnhau dealltwriaeth o broblem drafnidiaeth benodol a dechrau creu strategaethau neu ymyraethau i leddfu neu leihau ei heffaith negyddol.”
Y tri phrosiect arall sy’n derbyn grantiau gan THINK yng Nghymru yw:
- Ymchwil Trafnidiaeth: Age Connects Morgannwg sy’n edrych ar y rhesymau y tu cefn i gynnydd yn y galw o du pobl oedrannus yr ardal am gefnogaeth i ddatrys materion trafnidiaeth.
- Prosiect Cynhwysiant cymdeithasol trwy gludiant cymunedol sy’n edrych ar sut gall gwasanaethau trafnidiaeth da gefnogi pobl ag anawsterau dysgu sy’n wynebu rhwystrau cymdeithasol sylweddol o ran cynhwysiant.
- Prosiect Annog Teithio Llesol yn y Drenewydd sy’n helpu pobl sy’n byw yn y Drenewydd, yn enwedig yn ardal ystâd Treowen, i gerdded, beicio ac olwyno’n amlach.