Astudiaeth newydd yn galw am newid yn y ffordd y mae penderfynwyr yn gwerthfawrogi byd natur
Llun o’r awyr o wastraff mwyngloddio copr coch.
09 Awst 2023
Mae angen i’r gwahanol ffyrdd y mae natur yn cyfrannu at les cymdeithasol, diwylliannol ac ysbrydol pobl gael eu hadlewyrchu’n well mewn penderfyniadau gwleidyddol ac economaidd allweddol, yn ôl astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn blaenllaw Nature.
Dywed yr astudiaeth, a gafodd ei chyd-awdura gan Mike Christie, Athro Economeg Amgylcheddol ac Ecolegol yn Ysgol Fusnes Prifysgol Aberystwyth a'i gydweithiwr yr Athro Jasper Kenter, bod gwerth byd natur yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r pwyslais presennol ar elw tymor byr a thwf economaidd.
Yn ôl tîm awduron rhyngwladol yr astudiaeth, mae gwerthoedd natur sy'n seiliedig ar y farchnad - megis y rhai sy'n gysylltiedig â bwyd a nwyddau eraill a gynhyrchir ar raddfa ddwys - yn aml yn cael eu blaenoriaethu ar draul gwerthoedd anfasnachol sy'n gysylltiedig â chyfraniadau niferus eraill natur i bobl, fel addasu i newid hinsawdd neu feithrin hunaniaeth ddiwylliannol.
Ar yr un pryd, mae polisïau cadwraeth bioamrywiaeth - megis ehangu rhwydweithiau ardaloedd gwarchodedig - hefyd wedi blaenoriaethu’n aml setiau cul o werthoedd cynhenid byd natur. Mae hynny’n aml yn arwain at esgeuluso’r gwerthoedd hynny sydd gan bobl frodorol a chymunedau lleol, sydd mewn llawer o achosion yn amddiffyn bioamrywiaeth ar eu tiriogaethau.
Mae’r papur yn dadlau bod tanbrisio byd natur yn sbardun sylfaenol i’r argyfwng amgylcheddol byd-eang a bod canolbwyntio’n barhaus ar set cyfyng o werthoedd wedi profi’n anaddas o ran datrys yr argyfyngau bioamrywiaeth a hinsawdd.
Daw yn sgil cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2022 yr Adroddiad Asesu Gwerthoedd Amrywiol a Gwerthuso Natur, a gymeradwywyd gan 139 o aelod-wladwriaethau’r Llwyfan Polisi Gwyddoniaeth-Rynglywodraethol ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystemau (IPBES).
Yn ôl yr Athro Mike Christie o Brifysgol Aberystwyth, a oedd hefyd yn gyd-gadeirydd adroddiad yr IPBES:
“Os ydym am sicrhau cymdeithas fwy cyfiawn a chynaliadwy yn y dyfodol, mae’n hollbwysig ein bod yn gwyro oddi wrth y ffocws presennol ar elw tymor byr a thwf economaidd. Mae angen i ni ail-fantoli sut rydyn ni’n ystyried natur wrth wneud penderfyniadau trwy gydnabod a chofnodi’r ffyrdd niferus y mae pobl yn ymwneud â ac yn gwerthfawrogi’r byd naturiol.”
Mae’n nodi pedwar ‘dull sy’n canolbwyntio ar werthoedd’ a all feithrin yr amodau angenrheidiol ar gyfer newid trawsnewidiol o’r fath.
Mae’r rhain yn cynnwys cydnabod amrywiaeth gwerthoedd natur, gwreiddio’r gwerthoedd amrywiol hyn yn y broses o wneud penderfyniadau, diwygio polisïau ac ysgogi newid sefydliadol, a newid normau a nodau ar lefel cymdeithas i gefnogi gwerthoedd sy’n cyd-fynd â chynaliadwyedd ar draws sectorau.
Dywedodd yr Athro Unai Pascual o Ganolfan Newid Hinsawdd Gwlad y Basg (BC3) a Sefydliad Gwyddoniaeth Gwlad y Basg, Ikerbasque, prif awdur yr astudiaeth a oedd hefyd yn un o gyd-gadeiryddion adroddiad Asesiad Gwerthoedd yr IPBES:
“Mae gwell dealltwriaeth o sut a pham mae natur yn cael ei gwerthfawrogi, neu’i than-werthfawrogi, gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau preifat a chyhoeddus yn fwy pwysig nag erioed, ac er ei bod yn gadarnhaol bod cytundebau byd-eang fel Fframwaith Bioamrywiaeth Fyd-eang Kunming-Montreal a Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yn galw am broses gynhwysol a chyfranogol o ymgorffori gwerthoedd natur mewn gweithredoedd, mae prif bolisïau amgylcheddol a datblygu yn dal i flaenoriaethu is-set gul o werthoedd marchnad natur.”
Mae’r astudiaeth lawn ar gael ar wefan Nature-Pascual et al. 2023. Gwerthoedd amrywiol byd natur ar gyfer cynaliadwyedd. Natur. DOI: 10.1038/s41586-023-06406-9.