Gwahodd enwebiadau i swydd Dirprwy Ganghellor
Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Thomas o Gwmgïedd a Changhellor Prifysgol Aberystwyth yn cyflwyno Judith Diment, Cydlynydd Tasglu Eiriolaeth Dileu Polio y Rotari Rhyngwladol, yn Gymrawd yn ystod seremoniau graddio 2019.
20 Mai 2021
Mae Prifysgol Aberystwyth yn gwahodd enwebiadau i rôl anrhydeddus y Dirprwy Ganghellor.
Byddai deiliad y rôl yn dirprwyo pan fydd y Canghellor yn absennol a byddai'n cyflawni dyletswyddau seremonïol yn bennaf, a allai gynnwys llywyddu mewn seremonïau graddio neu weithredu fel llysgennad ar ran y Brifysgol mewn digwyddiadau.
Rhan bwysig o'r rôl fydd gweithio gyda'r Canghellor, y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Thomas a'r Dirprwy Ganghellor, yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens.
Byddai’r penodiadau am dymor cychwynnol o dair blynedd, y gellir eu hadnewyddu am ail dymor o dair blynedd.
Mae'r Brifysgol yn awyddus i benodi un Dirprwy Ganghellor yn ystod 2021 gyda'r bwriad o gyflwyno enw'r unigolyn i'w benodi/phenodi i Gyngor y Brifysgol ar 9 Gorffennaf 2021.
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi'i llwyr ymrwymo i'w dyletswydd i hyrwyddo a hybu'r Gymraeg a'i diwylliant ac mae'n annog y rhai a benodir yn Ddirprwy Gangellorion i gydnabod a chefnogi'r ymrwymiad hwnnw.
Golyga natur y rôl ei bod yn addas i unigolion sydd yn byw o fewn pellter teithio rhesymol i Brifysgol Aberystwyth, ac sydd yn gallu ymgymryd â swyddogaethau yn y Brifysgol o gwmpas ymrwymiadau personol eraill.
Dylai'r enwebiadau nodi profiad ac addasrwydd yr unigolyn ar gyfer penodiad o'r fath, a dylid eu cyflwyno i Ysgrifennydd y Brifysgol, ynghyd â CV byr, erbyn 17:00 ar ddydd Gwener, 4 Mehefin 2021. Gall unigolion enwebu eu hunan.
Mae rhagor o wybodaeth am rôl anrhydeddus Dirprwy Ganghellor ar wefan y Brifysgol: www.aber.ac.uk/dirprwy-ganghellor.