Prifysgol Aberystwyth yn y Ffair Aeaf
Huw Powell, arbenigwr glaswellt IBERS yn trafod gyda ymwelwyr yn Y Ffair Aeaf 2017
22 Tachwedd 2018
Bydd gwyddonwyr o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yr wythnos nesaf, sef dydd Llun 26 a dydd Mawrth 27 Tachwedd 2018.
Lleolir y stondin rhif EXB267 ar y balconi ym Mhafiliwn Da Byw 1, lle bydd ymchwilwyr wrth law i roi gwybodaeth i ffermwyr a ymwelwyr am y gwaith ymchwil a’r cyfleoedd addysgu diweddaraf sydd ar y gweill yn yr Athrofa arobryn.
Mi fydd gwybodaeth cyrsiau, a phrosbectws is ac ol-raddedig ar gael sy’n cwmpasu gwybodaeth am holl gyrsiau Prifysgol Aberystwyth a’i safle unigryw fel y brifysgol orau yn y DU am ansawdd y dysgu wedi iddi gael ei henwi’n Brifysgol y Flwyddyn am Ansawdd y Dysgu gan The Times / The Sunday Times am 2018 a 2019.
Bydd tîm BioArloesi Cymru yn hyrwyddo ystod newydd o gyrsiau dysgu o bell sydd ar gael yn IBERS ac sy’n galluogi’r sawl sydd eisoes mewn gwaith i ddatblygu eu sgiliau trwy astudio adref am radd Meistr, a hynny am gost rhesymol.
Bydd cyfle i ymwelwyr gofrestru i dderbyn gwybodaeth am y cynllun ymchwil newydd BeefQ, sydd yn anelu i ddatblygu system raddio ansawdd bwyta cig eidion Cymreig PGI, a chyfle i ennill taleb £50 gan Castell Howell.
Mi fydd arbenigwyr glaswelltydd IBERS yno i drafod pwysigrwydd priddoedd iach ar y fferm a’r mathau diweddaraf o laswelltydd a meillion Aber, yn ogystal â’r datblygiadau diweddaraf ym maes bioburo a phrosiect BEACON sydd yn cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad gyda phrifysgolion Bangor ac Abertawe.