Gwyddonwyr o Aber i ddilyn clip y lleuad
27 Gorffennaf 2018
Bydd gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cofnodi'r clip lleuad diweddaraf a fydd yn digwydd heno, nos Wener 27 Gorffennaf 2018.
Mae arbenigwr ar y lleuad Dr Tony Cook o’r Adran Ffiseg yn astudio sut mae wyneb y lleuad yn newid dros amser ac yn arbennig effaith, Fflachiadau Gwrthdrawiad ar y Lleuad.
Gan ddefnyddio telesgopau yn Aberystwyth, bydd Dr Cook yn cofnodi'r eclipse unwaith y bydd y lleuad yn codi uwchlaw'r gorwel, yn fuan ar ôl 9:00 o’r gloch yr hwyr.
Meddai Dr Cook: "Ar adeg y clip, bydd y Ddaear yn uniongyrchol rhwng yr haul a'r lleuad, a chysgod y ddaear yn cael ei daflu dros y lleuad, gan wneud i’r lleuad lawn ymddangos yn dywyll.
"Yma yn y DU bydd y lleuad yn codi tua 9:10 yr hwyr, tua hanner ffordd drwy'r clip, ac i’w gweld yn ffurfafen y de ddwyrain. Bydd angen i bobl aros tan tua 10:00 yr hwyr cyn iddi fod yn ddigon tywyll i allu gwerthfawrogi'n llawn effaith y clip.
"Bydd y clip yn para rhwng awr a dwy awr, mae'n dibynnu ar ba mor bell mae'r lleuad oddi wrth y ddaear. Bydd y clip hwn yn eithaf hir, gan fod y lleuad yn eithaf pell i ffwrdd ar yr achlysur hwn, felly mae'n cymryd mwy o amser.
"Yn wahanol i glipiau o’r haul sy'n weladwy dros ardal fach iawn o wyneb y ddaear, gellir gweld y lleuad dros hemisffer gyfan y ddaear os yw hi'n dywyll. Ac yn wahanol i glip yr haul nid oes angen unrhyw sbectol arbennig arnoch i'w weld, does dim angen i chi amddiffyn eich llygaid.
"Gall lliw y lleuad yn ystod clip amrywio. Os yw atmosffer y ddaear yn llawn llwch folcanig a mwg o danau coedwig, gall fod yn dywyll iawn. Os yw'r atmosffer yn lân, yna gall y lleuad ymddangos yn gochaidd neu liw copor.
"Bydd y golau o'r haul yn cael ei ailgyfeirio a'i blygu o gwmpas atmosffer y ddaear cyn taro’r lleuad, a gallwch weld lliwiau tebyg i’r hyn a welir pan fo’r haul yn machlud, machludoedd coch hyfryd, ac mae’r un peth yn digwydd gyda'r golau sy'n mynd o gwmpas atmosffer y ddaear ac sy'n cyrraedd y lleuad, gallwch weld lliwiau gwahanol yno.”
Bydd y clip hefyd yn effeithio ar ymchwil ar y lleuad, yn ôl Dr Cook.
"Ar hyn o bryd mae yna nifer o loerennau'n cylchdroi o gwmpas y lleuad, mae lloeren Americanaidd sy'n cymryd lluniau manwl iawn o wyneb y lleuad, ac mae lloeren Tsieineaidd sy'n edrych ar ochr draw’r lleuad. Oherwydd bod y lloerennau'n ddibynnol ar baneli solar fel ffynhonnell bŵer, byddant yn colli’r pŵer hwnnw yn ystod y clip. Felly bydd yn rhaid iddynt ddefnyddio pŵer batris a diogelu eu systemau tan y bydd golau’r haul yn eu taro unwaith eto.”
Mae Dr Cook yn gyn ymchwilydd yn Amgueddfa Genedlaethol Awyr a Gofod y Smithsonian yn Washington D.C., yn yr Unol Daleithiau ac yn astudio newiadau i wyneb yr haul.
Ym mis Mawrth 2017 adroddodd ar y cofnod cyntaf yn Ynysoedd Prydain o Fflach Gwrthdrawiad ar y Lleuad.
Yn ôl pob tebyg, achos y fflach a welwyd ar hemisffer deheuol y Lleuad oedd meteorit maint pêl golff yn taro’r wyneb.
Parodd y gwrthdrawiad, ar Ddydd Calan 2017, am lai na degfed o eiliad a chafodd llun ohono ei gofnodi drwy delesgop ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Cyflwynwyd y canfyddiadau yng Nghyngres Ewropeaidd Gwyddoniaeth y Planedau 2017. Wrth siarad ar y pryd, dywedodd Dr Cook:
“Pethau anodd iawn i’w cofnodi yw Fflachiadau Gwrthdrawiad ar y Lleuad. Byddai'r meteorit yn teithio ar gyflymdra o rhwng 10 a 70 km yr eiliad wrth iddi daro wyneb y Lleuad. Mae hyn yn cyfateb i deithio o Aberystwyth i Gaerdydd mewn ychydig eiliadau yn unig, a’r gwrthdrawiad drosodd mewn ffracsiwn o eiliad.”
“Byddai meteorit tebyg yn taro atmosffer y Ddaear yn cynhyrchu seren wib hardd, ond gan nad oes atmosffer gan y Lleuad mae’n taro’r wyneb yn syth gan achosi crater maint twll mawr. Caiff ychydig o dan 1% o ynni'r meteorit ei droi’n fflach olau, a dyma a lwyddom i’w gofnodi yma yn Aberystwyth.”
Mae gwyddonwyr yn amcangyfrif bod y Lleuad yn cael ei tharo gan feteorau o faint tebyg mor aml ag unwaith bob 10 i 20 awr.