Gwobr John Davies i fyfyrwraig o Aber
26 Gorffennaf 2018
Mi fydd myfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth yn derbyn un o brif wobrau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd eleni.
Bydd Gwobr John Davies yn cael ei chyflwyno i Elen Mererid Osmond Hughes mewn seremoni arbennig ar stondin y Coleg am 4 o’r gloch brynhawn Mercher 8 Awst, 2018.
Caiff Gwobr John Davies ei dyfarnu am y traethawd estynedig gorau a gyflwynwyd drwy gyfrwng y Gymraeg ym maes Hanes Cymru.
Teitl traethawd Elen, sydd bellach yn gweithio fel ymchwilydd i Barc Cenedlaethol Eryri, oedd ‘Archwilio egwyddorion imperialaeth newydd y 18eg ar 19eg ganrif yng Nghymu’r oesoedd canol yn dilyn concwest Edward y Cyntaf’.
Yn sgil cyhoeddi’r wobr, dywedodd Elen: ‘‘Rwy’n ddiolchgar iawn i Brifysgol Aberystwyth am yr enwebiad ac i’r Coleg Cymraeg am y wobr. Cefais bleser mawr o astudio Hanes ac mae derbyn y wobr hon, sy’n cydnabod pwysigrwydd ymchwilio ac astudio hanes Cymru yn hynod werthfawr i mi.’’
Roedd Dr John Davies yn un o brif haneswyr ei genhedlaeth ac awdur Hanes Cymru a llu o gyhoeddiadau eraill.
Bu’n aelod blaenllaw o Adran Hanes a Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth am flynyddoedd lawer, ac yn warden Neuadd Pantycelyn am 18 mlynedd.
Dechreuodd ar ei yrfa academaidd fel myfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd, cyn symud i Goleg y Drindod, Caergrawnt ac yna ei benodi i swydd darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe.
Yn 2013 fe’i hurddwyd yn Gymrawd Er Anrhydedd yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg yn Aberystwyth.
Mae Gwobr John Davies yn un o dair fydd yn cael eu cyflwyno yn ystod y seremoni.
Mae Gwobr Merêd yn cydnabod cyfraniad myfyriwr sydd yn aelod cyfredol o’r Coleg i’r bywyd a’r diwylliant Cymraeg, a Gwobr Gwyn Thomas i fyfyriwr sy’n cyflwyno’r traethawd estynedig gorau ym maes y Gymraeg fel pwnc academaidd gan fyfyriwr israddedig.
Enillwyr y gwobrau Merêd a Gwyn Thomas yw Gwyn Aled Rennolff a Lowri Havard, y ddau o Brifysgol Abertawe.
Dywedodd Dr Hefin Jones, Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: ‘‘Mae’n braf gallu cyflwyno’r gwobrau blynyddol hyn er cof am dri ysgolhaig a chwaraeodd ran mor flaenllaw yn natblygiad y Coleg. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r paneli dyfarnu am eu gwaith ac wrth gwrs i deuluoedd y Dr Meredydd Evans, y Dr John Davies a’r Dr Gwyn Thomas am eu cefnogaeth i’r gwobrau. Hoffwn longyfarch Gwyn, Elen a Lowri am gael eu dewis i dderbyn y gwobrau ac edrychwn ymlaen at ddathlu gyda hwy ar faes y brifŵyl fis nesaf.’’