‘Cawr y diwydiant cyfryngau yng Nghymru’ yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd

Miss Gwerfyl Pierce Jones, Dirprwy Ganghellor gyda Euryn Ogwen Williams, Gymrawd

Miss Gwerfyl Pierce Jones, Dirprwy Ganghellor gyda Euryn Ogwen Williams, Gymrawd

18 Gorffennaf 2018

Mae’r darlledydd profiadol a ffigwr arloesol yn y cyfryngau yng Nghymru, Euryn Ogwen Williams, wedi cael ei anrhydeddu’n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth i gydnabod ei gyfraniad i fywyd diwylliannol Cymru.

Fe'i magwyd yn y Coed-llai ger yr Wyddgrug yn Sir y Fflint. Graddiodd o Brifysgol Cymru, Bangor, mewn Athroniaeth a Seicoleg.

Rhwng 1964 a 1981, fe fu’n gynhyrchydd ac yn gyfarwyddwr ar ystod eang o raglenni i’r BBC, cwmni ITV Television Wales and the West (TWW), HTV ac yn annibynnol.

Pan sefydlwyd S4C yn 1982, ef oedd y Cyfarwyddwr Rhaglenni cyntaf, ac fe aeth yn ei flaen i fod yn ddirprwy Brif Swyddog Gweithredol o 1988 tan 1991.

Ym mis Mawrth 2018 arweiniodd adolygiad annibynnol ar S4C ar ran Ysgrifennydd Gwladol Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Mae wedi cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth ac ysgrifau lu ar sefyllfa gyfnewidiol y cyfryngau. Mae'n darlithio ac yn cynghori am y cyfryngau ac yn cyfrannu at raglenni teledu a radio. 

Cafodd Euryn Ogwen Williams ei gyflwyno gan Dr Jamie Medhurst o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth ar ddydd Mercher 18 Gorffennaf 2018.  Mae’r cyflwyniad ar gael isod, yn yr iaith y’i traddodwyd.

Cyflwyniad i Euryn Ogwen Williams gan Dr Jamie Medhurst:

Dirprwy Ganghellor, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion. Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Euryn Ogwen Williams yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Pro Chancellor, Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters.  It is an honour and a privilege to present Euryn Ogwen Williams as a Fellow of Aberystwyth University.

In his biography, Euryn describes himself as a ‘media consultant’. But the man you see before you is much more than this. He is a giant of the media industry in Wales, with a career in broadcasting which spans over fifty years.

Fe’i ganed ym Mhenmachno yng Ngwynedd a’i fagu yn Leeswood, ger Yr Wyddgrug yn Sir y Fflint.And when the time came to fly the nest he attended what was then the University College of North Wales Bangor (but we’ll forgive him for that) and graduated with a degree in Philosophy and Psychology.

He began his illustrious career as a presenter with the ITV company Television Wales and the West, TWW, based in Cardiff – I could sing you the TWW station ident – or maybe we could duet – or maybe not … see me after, maybe. He went on to produce and direct a wide range of programmes for TWW, Harlech Television/HTV, BBC and the independent sector. 

Euryn oedd Cyfarwyddwr Rhaglenni cyntaf S4C cyn symud i swydd y Dirprwy Brif Weithredwr ym 1988. Mae hefyd wedi gweithredu fel ymgynghorydd arbennig ar deledu Gaeleg yn Yr Alban, ar deledu yn yr iaith Wyddeleg ac fel ymghynghorydd i Bwyllgor Diwylliant Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystod yr adolygiad i’r iaith Gymraeg.

In March 2018 he completed and published an independent review of S4C for the Secretary of State for Digital, Culture, Media and Sport in the UK government and was giving evidence on the report to the Welsh Affairs Committee a fortnight ago.

Mae Euryn wedi cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth yn ogystal â chyhoeddi nifer o bapurau a phamffledi ar y byd cyfryngol.In addition to publishing two volumes of poetry he was the president of the Vale of Glamorgan National Eisteddfod in 2012 and he and his wife Jenny live in Barry and have two children and three grandchildren – plenty to keep him busy!

Wedi cyfraniad oes i’r byd darlledu, mae’n gwbl briodol i Euryn dderbyn Tlws Cyfraniad Oes yng Ngŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin yn 2016.

His contribution to the world of broadcasting was acknowledged in 2016 when he was presented with the Lifetime Achievement Award at the Carmarthen Bay Film Festival. And if you’re planning to attend the National Eisteddfod in Cardiff this year, BAFTA Cymru have an evening to pay tribute to Euryn for his remarkable contribution to Welsh broadcasting – or as BAFTA say, to pay tribute to his ‘influential career’.

Ond dyma’n cyfle ni i dalu teyrnged am gyfraniad Euryn i fywyd diwylliannol Cymru. Today, however, we have an opportunity to thanks Euryn and to honour him for his contribution to the cultural life of Wales.

Dirprwy Ganghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno Euryn Ogwen Williams i chi yn Gymrawd. 

Pro Chancellor, it is my absolute pleasure to present Euryn Ogwen Williams to you as a Fellow of Aberystwyth University.

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2018

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu naw o bobl yn ystod seremonïau graddio 2018, a gynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Brifysgol rhwng dydd Mawrth 17 Gorffennaf a dydd Gwener 20 Gorffennaf.

Cyflwynir chwe Chymrawd er Anrhydedd i unigolion a chanddynt gysylltiad ag Aberystwyth neu â Chymru ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’w dewis feysydd.

Cyflwynir un radd Doethuriaeth Er Anrhydedd hefyd; mae’r rhain yn cydnabod unigolion sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus yn eu maes, neu sydd â record hir o ymchwil a chyhoeddi nodedig.

Cyflwynir dwy radd Baglor er Anrhydedd. Cyflwynir y rhain i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth heb radd lefel-mynediad, i gydnabod eu gwasanaeth hir, eu cyfraniad a’u hymrwymiad i’r Sefydliad; ac i aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r cyffiniau.

Cymrodoriaethau er Anrhydedd:

Cyflwynir Cymrodoriaethau er Anrhydedd i:

  • Yr Athro Ann Sumner – hanesydd celf, curadur arddangosfeydd, a chyfarwyddwraig amgueddfa
  • Bonamy Grimes MBE – gwe-entrepreneur a chyd-sylfaenydd y wefan cymharu prisiau teithiau awyren, Skyscanner
  • Euryn Ogwen Williams – darlledydd profiadol a ffigwr arloesol yn y cyfryngau yng Nghymru
  • John Dawes OBE – cyn-chwaraewr a chyn-hyfforddwr rygbi rhyngwladol
  • Yr Athro Menna Elfyn – bardd a dramodydd arobryn
  • Ei Anrhydedd y Barnwr Milwyn Jarman QC – barnwr blaenllaw.

Urddwyd yr awdur a’r ysgolhaig, yr Athro Meic Stephens yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd ddydd Iau 3 Mai 2018. Bu farw yr Athro Stephens ar ddydd Iau 3 Gorffennaf.

Gradd Doethur er Anrhydedd:

Cyflwynir gradd Doethur er Anrhydedd i’r entrepreneur technoleg a dylunydd meddalwedd, John Thompson.

Graddau Baglor er Anrhydedd:

Cyflwynir gradd Baglor yn y Gwyddorau er Anrhydedd i gyn Reolwr Gorsaf Dân Aberystwyth, Eric Harries, a drefnodd ac arwain 50 o deithiau dyngarol i Ddwyrain Ewrop i gynorthwyo rhai diniwed a ddioddefai oherwydd rhyfel.

Cyflwynir Gradd Baglor yn y Celfyddydau er Anrhydedd i Sue Jones-Davies, actores a chantores, cynghorydd tref, a chyn Faer Aberystwyth.

 

AU31318