Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn gwobrwyo cyfraniad academydd o Brifysgol Aberystwyth
Dr Rhianedd Jewell
29 Mai 2018
Mae ymchwil ac ysgolheictod academydd of Brifysgol Aberystwyth ym maes cyfieithiadau llenyddol o ieithoedd Ewropeaidd i’r Gymraeg wedi ei gydnabod gan Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Cyflwynwyd medal Dillwyn yn y Celfyddydau Creadigol a’r Dyniaethau i Dr Rhianedd Jewell, Darlithydd y Coleg Cymraeg mewn Cymraeg Proffesiynol yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth mewn seremoni yng Nghaerdydd nos Iau 24 Mai 2018
Roedd Dr Jewell yn un o bedwar enillydd i dderbyn medal yn y seremoni a gynhaliwyd yn y Coleg Brenhinol Celf a Drama Cymru yng Nghaerdydd i ddathlu llwyddiant y sector academaidd yng Nghymru.
Mae ymchwil cyfredol Dr Jewell yn ystyried cyfieithu proffesiynol, llenyddiaeth i fenywod, a’r berthynas rhwng llenyddiaeth Gymraeg a’r Eidal.
Dywedodd Dr Jewell: “Mae’n anrhydedd i fi dderbyn Medal Dillwyn yn y Celfyddydau Creadigol a’r Dyniaethau. Rwyf i wrth fy modd fod fy ymchwil mewn astudiaethau cyfieithu wedi derbyn y fath gydnabyddiaeth gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Byddwn yn benodol yn hoffi diolch i fy nghydweithwyr a fy nheulu am eu cefnogaeth hanfodol ar ddechrau fy ngyrfa academaidd.”
Mae medalau Dillwyn wedi’u henwi er anrhydedd i deulu nodedig Dillwyn o Abertawe a gyflawnodd arbenigedd eithriadol ar draws sawl maes gweithgaredd deallusol yn y celfyddydau a’r gwyddorau.
Llongyfarchwyd Dr Jewell ar ei llwyddiant gan Dr Cathryn Charnell-White, Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dywedodd Dr Cathryn Charnell White: “Rydym oll, yn gydweithwyr ac yn fyfyrwyr i Rhianedd, yn hynod falch o’i llwyddiannau. Yn ogystal â mynnu sylw ymchwilwyr yn y maes, bydd ei chyfrol ar Saunders Lewis hefyd yn cyfoethogi modiwlau BA ac MA yr Adran sy’n ymwneud â chyfieithu.
Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas: “Mae’n wych gweld y fath dalent yn derbyn cydnabyddiaeth gan y Gymdeithas Ddysgedig. Llongyfarchiadau mawr i enillwyr ein medalau.”
Yn ogystal â’r fedal i Dr Jewell, dyfarnwyd medal Frances Hoggan, sydd yn cydnabod cyfraniad ymchwilwyr benywaidd rhagorol ym maes STEMM sydd â chysylltiad â Chymru, i’r Athro Lynne Boddy o Brifysgol Caerdydd.
Dyfarnwyd medal STEMM Dillwyn i Dr Gwyn Bellamy, uwch-ddarlithydd yn yr Adran Mathemateg ym Mhrifysgol Glasgow, a medal Dillwyn yn y Gwyddorau Cymdeithas, Addysg a Busnes i Dr Dawn Mannay, Uwch-ddarlithydd mewn Gwyddorau Cymdeithasol (Seicoleg) yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n dathlu ac yn annog rhagoriaeth ym mhob disgyblaeth ysgolheigaidd. Fe’i sefydlwyd fel elusen Siarter Brenhinol yn 2010 ac mae’n ffynhonnell annibynnol o gyngor ysgolheigaidd arbenigol a sylwadau ar faterion sy’n effeithio ar lesiant Cymru a’i phobl.