Labordy Traeth yn y Bandstand - Cwrdd â'r Robotiaid
Stephen a Tomos o Glwb Roboteg Aberystwyth
15 Mehefin 2016
Ddydd Sadwrn 18 Mehefin rhwng 10:00 a 4:00, daw’r Labordy Traeth yn ôl unwaith eto i Fandstand Aberystwyth, yn rhoi'r cyfle i'r cyhoedd i 'gwrdd â robotiaid'.
Ar y diwrnod, bydd aelodau o Glwb Roboteg Aberystwyth, sef clwb ar ôl ysgol i bobl ifanc 11-18 oed a gynhelir gan Brifysgol Aberystwyth, yn dangos eu prosiectau cyfredol, gan gynnwys 'InMoov', sef Robot Dynolffurf wedi'i argraffu ag argraffydd 3D.
Caiff ymwelwyr y cyfle i ddysgu mwy am yr arbenigedd roboteg ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda Grŵp Roboteg Ddeallus yr Adran Gyfrifiadureg yn dangos eu robotiaid hwylio a'u robotiaid pob tirwedd. Bydd cyfle hefyd ar y diwrnod i weld robotiaid adloniant rhyngweithiol yn y Bandstand.
Dywedodd Dr Stephen Fearn, o Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Rydym yn falch iawn bod y Labordy Traeth yn ôl am flwyddyn arall ac edrychwn ymlaen at gyfarfod y rhai sy'n galw draw i ddysgu mwy am ein robotiaid. Bydd aelodau o'r cyhoedd yn cael y cyfle i yrru robot eu hunain."
Ymhellach i lawr y prom, yn yr Hen Goleg, bydd cyfle i fwynhau gweithgareddau eraill yn rhan o'r Diwrnod Cymunedol yn yr Hen Goleg rhwng 10.30 y bore a 3 y prynhawn.
Caiff ymwelwyr brofiad o 'Daith drwy Gysawd yr Haul' yn y Planetariwm 360˚ dros dro, a fydd yn cynnig pedwar dangosiad yn rhad ac am ddim ar y diwrnod. Bydd 'Ymchwilwyr y Dyfodol' yn trafod eu prosiectau ymchwil uwchraddedig.
Yn y Cwad bydd arddangosfa o ddillad o archif y brifysgol, a fydd yn cynnwys gynau seremonïol, capiau a siacedi chwaraeon. Caiff ymwelwyr ddysgu mwy hefyd am hanes yr Hen Goleg, adeilad Cofrestredig Gradd 1, gyda chyflwyniad a thaith dywys yn rhan o raglen y diwrnod. Mae'r holl weithgareddau am ddim ac mae croeso i bawb.
Ceir rhaglen lawn o weithgareddau'r diwrnodyma