Trafodaeth ar y Refferendwm a’i oblygiadau i Gymru a’r Deyrnas Gyfunol

06 Mehefin 2016

Ar ddydd Llun 13 Mehefin, 2016,  cynhelir digwyddiad cyhoeddus gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth i drafod Refferendwm yr UE.

Dyma’r digwyddiad mwyaf diweddar mewn cyfres o drafodaethau tebyg sy’n cael eu cynnal o amgylch y Deyrnas Gyfunol yn ystod y cyfnod sydd yn arwain at y diwrnod pleidleisio ar ddydd Iau 23 Mehefin, 2016, ac mae'n ffurfio rhan o fenter y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (yr ESRC)Y Deyrnas Gyfunol mewn Ewrop sy’n Newid.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys panel o bedwar arbenigwr ar faterion Ewropeaidd: Yr Athro Michael Keating o Brifysgol Aberdeen, Athro ar wleidyddiaeth Ewropeaidd a Chyfarwyddwr presennol y Ganolfan ESRC ar Newid Cyfansoddiadol; Dr Joanne Hunt o Brifysgol Caerdydd sydd yn arbenigo ar faterion yn ymwneud gyda rhanbartholdeb a datganoli yn y DU,  Alan Davies, Prif Weithredwr Undeb Amaethwyr Cymru, a Dr Alistair Shepherd, arbenigwr ar Wleidyddiaeth Ewrop ac uwch ddarlithydd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cadeirir y digwyddiad gan Sara Gibson, BBC Cymru Wales.

Cynhelir y digwyddiad yng Nghanolfan y Morlan, Rhodfa'r Gogledd, Aberystwyth ar ddydd Llun 13 Mehefin, 2016 am 6.00yh, gyda choffi a chacennau o 5.30yh ymlaen. Mae croeso i bawb ac mae mynediad am ddim.

Gan siarad cyn y digwyddiad, pwysleisiodd Dr Anwen Elias, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, bwysigrwydd trafodaethau o'r math yma yng Nghanolfan y Morlan yn ystod y cyfnod yn arwain at y Refferendwm ar 23 Mehefin - Refferendwm a fydd yn penderfynu a fydd y Deyrnas Gyfunol yn parhau yn yr Undeb Ewropeaidd ai beidio.

"Rydym yn falch i groesawu'r Athro Michael Keating yn ôl i Aberystwyth i rannu ei farn ar y Refferendwm, ac i wneud hynny mewn trafodaeth gyda Dr. Joanne Hunt,  Alan Davies a Dr Alistair Shepherd a phobl Aberystwyth a Cheredigion," meddai Dr Elias, arbenigwr blaenllaw ar wleidyddiaeth Ewropeaidd a rhanbarthiaeth gymharol o fewn Ewrop.