Gwobr Myfyriwr Llaeth y Flwyddyn i fyfyriwr o IBERS

Cennydd Jones (canol) yn derbyn ei wobr oddi wrth (chwith i’r dde) Abby Cook o Kite Consulting, Manod Williams  o Brifysgol Aberystwyth, Mike King, Cadeirydd RABDF, ac Edward Lott o Kite Consulting

Cennydd Jones (canol) yn derbyn ei wobr oddi wrth (chwith i’r dde) Abby Cook o Kite Consulting, Manod Williams o Brifysgol Aberystwyth, Mike King, Cadeirydd RABDF, ac Edward Lott o Kite Consulting

30 Mawrth 2016

Mae Cennydd Jones o Bontsian, Llandysul wedi dod yn ail yng ngwobr fawreddog Myfyriwr Llaeth y Flwyddyn yr RABDF MSD Animal Health.

Llwyddodd Cennydd, sy’n ei flwyddyn olaf ac yn astudio Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, is guro 26 o ymgeiswyr eraill  er mwyn sicrhau’r ail safle.

“Roeddwn yn hapus dros ben i gyrraedd y rownd derfynol, a dydw i ddim yn gallu credu fy mod wedi dod yn ail, ac mae’r diolch i enwebiad gan fy narlithydd Manod Williams yn y lle cyntaf,” meddai.

Adlewyrchir brwdfrydedd Cennydd dros odro llaeth yn ei gyfraniad at ail sefydlu buches laeth ar y fferm deuluol. “Dros 30 mlynedd yn ôl, bu i fy nhaid a nain Idwal a Pegi, symud o ffermio llaeth i dda sugno, ond er mwyn sicrhau dyfodol hir dymor i’r uned hon sydd yn seiliedig ar borfa, cytunwyd mai’r unig ffordd ymlaen oedd mynd yn ôl at laeth ac yn raddol ehangu i 120 o wartheg,” meddai.

Yn ddiweddar ymddangosodd Cennydd ar raglen boblogaidd Countryfile ar BBC One,  ac wrth edrych yn ôl ar ei amser yn astudio yn IBERS, dywedodd: “I fod yn deg, mae pedair blynedd yn Aberystwyth wedi bod yn wych.”

Ar ôl graddio mae Cennydd yn bwriadu teithio cyn dychwelyd i’r fferm deuluol a diogelu swydd ymgynghorol rhan amser. “O ganlyniad i gael profiad o weithio ar sustemau mewnbwn isel yn Seland Newydd, hoffwn deithio i wledydd sydd yn cefnogi sustemau mwy effeithlon a dysgu mwy, er enghraifft am reoli ffrwythlondeb.”

Ychwanegodd: “Mae’n rhaid bod yn optimistaidd ym mha bynnag ddiwydiant yr ydych yn gweithio gan y bydd uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ymhob un. Mae’r galw am nwyddau llaeth i fod i gynyddu yn y tymor hir, ac unwaith y byddwn yn cymryd cam i fyny mewn allforio a dechrau cael cydbwysedd rhwng cyflenwad a galw, yna tybiaf y gallwn edrych ymlaen at sefydlogrwydd ym mhris llaeth.

Cafwyd ymateb gan 28 o ymgeiswyr myfyrwyr amaethyddol a milfeddygol i wahoddiad gan y RABDF i gwblhau traethawd a oedd yn cynnwys cyngor busnes wedi ei ddarparu gan Kite Consulting ar uned ffermio llaeth deuluol o 300 o wartheg; busnes ymylol yn cael ei reoli gan ffermwr a oedd yn chwilio am gynllun tymor hir i sicrhau bod y fenter yn parhau i fod yn hyfyw ar gyfer ei fab i’w chymryd drosodd wedi ei ymddeoliad.

Barnwyd y traethodau gan gadeirydd RABDF Mike King, aelod cyngor RABDF William Westacott ac aelodau o Kite Consulting; Edward Lott ac Abby Cook. Fe deithiodd y chwech a oedd yn y rownd gynderfynol i Lundain i roi cyflwyniad ar ‘Y Diwydiant Llaeth yn y DG yn y 10 mlynedd nesaf.’

AU11916