Gwobr fawr i Glwb Roboteg Aberystwyth

Iestyn Langstaff, myfyriwr o ysgol Penglais yn gweithio ar fraich roboteg 3D yn Clwb Roboteg Aberystwyth gyda llysgennad myfyrwyr Pheobe Holcombe.

Iestyn Langstaff, myfyriwr o ysgol Penglais yn gweithio ar fraich roboteg 3D yn Clwb Roboteg Aberystwyth gyda llysgennad myfyrwyr Pheobe Holcombe.

10 Mawrth 2016

Mae Clwb Roboteg Aberystwyth a’u chasgliad o Lysgenhadon Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) wedi ennill gwobr genedlaethol yn ystod Wythnos Clybiau STEM am eu gwaith gyda myfyrwyr o Ysgol Gyfun Penglais ac Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig.

Bu tua 3,000 o ysgolion ar draws y Deyrnas Gyfunol yn dathlu'r ail Wythnos Clybiau STEM (1-5 Chwefror) i’w chynnal erioed, gyda gweithgareddau i arddangos y sgiliau creadigol, datrys problemau a chyflogadwyedd y mae gweithgareddau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a  mathemateg yn eu cynnig.

Mae Clwb Roboteg Aberystwyth, sy’n cael eu gynnal yn yr adran Ffiseg, wedi bod yn gweithio'n agos gyda myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i gynnig cyfle i’w haelodau Clwb STEM a thanio’u brwdfrydedd am yrfaoedd STEM.

Mae'r clwb wedi ennill gwobr am y Defnydd Gorau o Lysgenhadon STEM mewn Clwb STEM.

Mae pob gweithgaredd sy’n cael ei gynnig gan Glwb Roboteg Aberystwyth yn cael ei gefnogi gan  rhwng wyth a deg Llysgennad STEM, cynrychiolwyr o yrfaoedd STEM sy'n darparu cyngor a mewnwelediad amhrisiadwy.

Trwy weithio mewn partneriaeth gyda'r ddwy ysgol a’r Llysgenhadon STEM, mae disgyblion yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy’n cynnwys y defnydd o argraffu 3D, Lego Mindstorms, Raspberry Pi a dewis eang o adnoddau eraill i ddysgu technegau peirianneg a datblygu prosiectau arloesol.

Cydlynir Wythnos Clybiau STEM gan yr elusen addysg STEMNET, a'i nod yw annog ac ysbrydoli pob ysgol i ffurfio clwb ac archwilio potensial sgiliau STEM.

Meddai Kirsten Bodley, Prif Swyddog Gweithredol STEMNET: "Mae Llysgenhadon STEM yn adnodd gwych i ysgolion, gallant chwalu'r rhwystrau rhwng addysg a byd go iawn i ddisgyblion sydd efallai erioed wedi ystyried gyrfa STEM o'r blaen. Mae'r ddwy ysgol yma yn gwneud gwaith gwych o ehangu dealltwriaeth eu disgyblion o STEM a datblygu eu sgiliau STEM. "

Dywedodd Katie Louise Hope, myfyrwraig 3edd blwyddyn ar radd Ffiseg y Gofod a’r Planedau ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Rwyf wedi bod yn rhan o Glwb Roboteg Aberystwyth drwy gydol fy ngradd, ac mae bod yn rhan o'r clwb wedi rhoi cipolwg i mi ar dalentau’r bobl ifanc hyn. Mae'r cyfle y mae Steve Fearn a'r tîm Roboteg yn ei roi i'r plant hyn yn un y byddwn wedi mwynhau ei gael fy hunan yn blentyn. Ochr yn ochr â'r heriau ymarferol, mae bod yn rhan o'r clwb wedi caniatáu i mi i ennill sgiliau gwerthfawr a fydd yn rhan hanfodol o fywyd bob dydd pan fyddaf yn ymgymryd â chwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion mewn Ffiseg ym mis Medi. Rwy'n gobeithio gweld llawer o’r gwirfoddolwyr STEM hyn yn datblygu gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant STEM.”

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Clybiau STEM yn ogystal รข chyngor ar ystod o weithgareddau y gall Clybiau STEM eu gwneud. Ceir cael mwy o wybodaeth am Glwb Roboteg Aberystwyth ar y wefan www.aberrobotics.club.

AU9516