Penodi timau ymgynghorol i ddatblygu Campws Arloesi a Menter newydd Aberystwyth
Lleoliad arfaethedig Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yng Ngogerddan
02 Chwefror 2016
Mae AIEC Cyf, sef menter newydd rhwng Prifysgol Aberystwyth a’r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC), yn falch o gyhoeddi penodiad y timau o ymgynghorwyr i gynorthwyo gyda’r datblygiad newydd.
Ariannwyd y Campws Arloesi a Menter gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru; gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a chan Brifysgol Aberystwyth, ac fe fydd yn darparu adnoddau o safon fyd-eang ynghyd â’r arbenigedd i ddod o hyd i atebion masnachol ar gyfer y diwydiant amaeth-dechnoleg.
Bydd AECOM Professional Services LLP yn darparu gwasanaethau Prosiect a Rheoli Costau ar gyfer y prosiect adeiladu sylweddol fydd yn digwydd ar gampws Gogerddan y Brifysgol, ar gyrion Aberystwyth.
Yn dilyn proses gaffael lawn trwy Gyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd, dyfarnwyd y contract i AECOM ar ôl cystadleuaeth ffyrnig a chlos rhwng nifer o gynigwyr uchel eu proffil.
Yn yr un modd, llwyddodd IBI Group i ennill y contract i ddarparu gwasanaeth dylunio amlddisgyblaeth, llawn ar gyfer y Prosiect, yn wyneb cryn dipyn o gystadleuaeth.
Byddant yn arwain tîm dylunio amlddisgyblaeth sy’n cynnwys AECOM/MEP a Curtins Consultancy i ddarparu’r ystod lawn o wasanaethau dylunio sydd eu hangen ar gyfer prosiect mor gymhleth.
Wrth siarad ar ran IBI Group, dywedodd Mark Drane: “Rydym yn falch iawn o gael bod yn rhan o ddatblygiad mor gyffrous, ac o gael y cyfle i ddylunio canolfan greadigol a fydd yn ysbrydoli cydweithrediadau llwyddiannus rhwng ymchwilwyr o safon fyd-eang a chyw fentergarwyr”.
Cushman & Wakefield sy’n cwblhau’r tîm ymgynghori a fydd yn darparu arweiniad a chyngor cynllunio ar gyfer y prosiect.
Meddai Andrew Teage, Cyfarwyddwr Cynllunio Cyswllt Cushman & Wakefield: “Mae Cushman & Wakefield yn hynod falch o gael ei ddewis fel y tîm cynllunio a fydd yn gyfrifol am gynghori AIEC Cyf ar y prosiect cyffrous a heriol hwn. Byddwn yn ychwanegu gwerth i’r prosiect trwy ddarparu cyngor cynllunio blaengar sy’n seiliedig ar egwyddorion masnachol, gan edrych yn benodol ar ddichonoldeb y cynigion i fuddsoddi yn y campws, a fydd yn helpu AIEC Cyf i gwrdd â rhaglen heriol a gofynion ariannol y prosiect.”
Dywedodd Huw Watkins, Cyfarwyddwr Prosiect AIEC: “Ar ôl proses gaffael drylwyr, rydym yn falch o gyrraedd y garreg filltir arwyddocaol hon yn ystod cam paratoi’r prosiect, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r ymgynghorwyr a benodwyd i fwrw ymlaen â’r datblygiad a symud yn agosach tuag at ddarparu’r manteision sy’n gysylltiedig â’r buddsoddiad sylweddol hwn.
“Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiad ar gyfer y gadwyn gyflenwi yn y gwanwyn er mwyn ymgysylltu’n gynnar â chyflenwyr lleol a chenedlaethol sydd am fanteisio ar y cyfleodd ardderchog a grëwyd gan y buddsoddiad yn y Campws Arloesi a Menter.”
Mae un o adeiladau presennol safle Gogerddan eisoes wedi’i adnewyddu i safon uchel a bydd yn darparu dros 300m2 o ofod swyddfa rhentadwy i’r gymuned fusnes. Mae’r safle wedi’i foderneiddio’n benodol ar gyfer cwmnïau sy’n awyddus i symud yn nes at y rhagoriaeth ymchwil o safon fyd-eang a wneir gan wyddonwyr yn IBERS.
Ariannwyd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru; gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a chan Brifysgol Aberystwyth.
Ym mis Rhagfyr 2014, cyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth ei bod wedi sicrhau buddsoddiad £20m oddi wrth Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru, buddsoddiad £12m oddi wrth y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) yn ogystal ag £8.5m o arian y Brifysgol.
Ers y cyhoeddiad, mae Prifysgol Aberystwyth a’r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol wedi creu Cwmni Menter ar y cyd, sef AIEC Cyf, a fydd yn gyfrifol am ddylunio, adeiladu a gweithrediad y Campws.
Mae Bwrdd AIEC Cyf ar hyn o bryd yn ystyried pa ddull i’w ddefnyddio i gaffael contractwr, neu gontractwyr, i adeiladu’r isadeiledd a’r adeiladau.
AU2616