Gwaith celf yn adfywio’r Hen Goleg

O'r chwith i'r de: Dirpwy Is-Ganghellor Rhodri Llwyd Morgan, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion Ellen ap Gwynn, Cyfarwyddwraig Datblygu a Chysylltiadau Alumni Louise Jagger, Mary Lloyd Jones, Is-Ganghellor April McMahon, Dirpwy Ganghellor Gwerfyl Pierce Jones a Chynghorydd Tref Aberystwyth Brendan Somers, tu allan i'r Hen Goleg.

O'r chwith i'r de: Dirpwy Is-Ganghellor Rhodri Llwyd Morgan, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion Ellen ap Gwynn, Cyfarwyddwraig Datblygu a Chysylltiadau Alumni Louise Jagger, Mary Lloyd Jones, Is-Ganghellor April McMahon, Dirpwy Ganghellor Gwerfyl Pierce Jones a Chynghorydd Tref Aberystwyth Brendan Somers, tu allan i'r Hen Goleg.

22 Hydref 2015

Mewn digwyddiad arbennig i nodi Diwrnod y Sylfaenwyr, cyflwynodd yr artist adnabyddus Mary Lloyd Jones faneri newydd i’r Brifysgol er mwyn dathlu a hyrwyddo ailenedigaeth adeilad eiconig yr Hen Goleg.

Bydd y gweithiau celf hyfryd, gyda’r slogan 'Bywyd Newydd i’r Hen Goleg', yn ymddangos yn barhaol ar lan y môr i bawb eu gweld, ac yn atgof cyson o fenter bwysig newydd sy'n anelu at adnewyddu ac adfywio’r adeilad rhestredig gradd un a chreu canolfan artistig a diwylliannol newydd ar gyfer y brifysgol a'r dref.

Mae Mary Lloyd Jones eisoes yn adnabyddus i lawer yn yr ardal a thu hwnt, ac mae wedi gweithio o’i stiwdio yn yr Hen Goleg ers 2013. Mae un o'i gweithiau celf, sy'n cynnwys tair baner ar ddeg 13 troedfedd o hyd yn adlewyrchu dilyniant y traddodiad a’r diwylliant barddol Cymraeg o'r cyfnod cynharaf hyd at heddiw, yn hongian yng nghwad yr Hen Goleg ac wedi denu llawer o edmygwyr.

Meddai Mary: “Rwy’ wrth fy modd gyda’r Hen Goleg ac yn awyddus i helpu gymaint ag y gallaf er mwyn ei adfywio. Rwy'n teimlo gall yr adeilad hwn – gyda’i hynodrwydd a’i ysbryd gynnig ysbrydoliaeth i bawb, ond fwy pwysig, gall chwarae rhan bwysig fel rhyngwyneb a chyswllt rhwng meysydd fel daeareg, gwyddoniaeth, archeoleg ac iaith, a'r celfyddydau gweledol.

“Tu hwnt i hynny mae llawer o gydweithio posibl, yn enwedig os gellid cael preswyliadau rhyngwladol. Mae gennym eisoes gysylltiadau gwych â Tsieina ac mae ymwelwyr Tseiniaidd wrth eu bodd gyda’r adeilad.”

Ysbrydolwyd Mary gan y syniad o greu canolbwynt creadigol sy'n cwmpasu amrywiaeth o swyddogaethau gan gynnwys, mannau perfformio, siopau a stiwdios fyddai’n gatalydd a fforwm ar gyfer mentrau a syniadau newydd.

Ychwanegodd: “Gan gadw hyn i gyd mewn cof, meddyliais y byddai'n hwyl i gael rhywfaint o faneri a fyddai'n adlewyrchu hyn ac yn gweithredu fel galwad ac yn ein hatgoffa o'r hyn rydym am ei gyflawni. Y bwriad yw y bydd gennym fersiynau Cymraeg a Saesneg, nid yn unig ar lan y môr ond hefyd rhai sgwâr, mawr yn hongian yn y brif fynedfa.”

Dywedodd Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni’r Brifysgol: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Mary am ei chefnogaeth barhaus i gynllun Bywyd Newydd i’r Hen Goleg drwy ei rhodd o’r darn celf unigryw ac ysbrydoledig  hwn a fydd yn atseinio gyda holl gefnogwyr y prosiect yma yn Aberystwyth, yng Nghymru a ledled ein cymuned o 60,000 o alumni a ffrindiau ar draws y byd. Mae'r gwaith celf yn symbol o'n huchelgais fel cymuned a bydd yn cynrychioli mewn modd gweledol amlwg a gwerthfawr iawn, yr hyn yr ydym yn bwriadu ei gyflawni i ystod eang o gynulleidfaoedd.”

AU33915