Croesawu darlithwyr newydd i Brifysgol Aberystwyth
Manod Williams
23 Medi 2015
Unwaith eto eleni, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cyllido rhagor o ddarlithwyr newydd i addysgu mewn gwahanol feysydd ar draws prifysgolion Cymru.
Yn sgil y penodiadau, bydd darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn datblygu ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn meysydd fel Biofilfeddygaeth a Gwyddorau Amgylcheddol.
Un sy’n awyddus i ymgymryd â’r gwaith addysgu ac ymchwilio yw Manod Williams o Bow Street gafodd ei benodi fel Darlithydd Biofilfeddygaeth:
‘‘Rwy’n edrych ymlaen at gynnig opsiwn i ddarpar fyfyrwyr astudio cyfres eang o fodiwlau amaethyddol a biofilfeddygol trwy’r Gymraeg a thrwy hynny sicrhau bod yr Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn tyfu i fod yn ganolfan ragoriaeth amaethyddol a biofilfeddygol cyfrwng Cymraeg.’’
Dr Marie Busfield o Gaerdydd sydd wedi’i phenodi i swydd ddarlithio ym maes Gwyddor Amgylcheddol, ac mae’n edrych ymlaen at weithio trwy’r Gymraeg ar ôl derbyn ei haddysg uwch ym Mhrifysgolion Leicester a’r Royal Holloway, Llundain:
‘‘Rwy’n edrych ymlaen at ddychwelyd i addysg cyfrwng Cymraeg a rhoi’r cyfle i fyfyrwyr barhau â’u haddysg yn eu mamiaith. Rwyf hefyd yn awyddus i ymestyn darpariaeth cyfrwng Cymraeg Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth i feysydd academaidd cwbl newydd ac unigryw.’’
Yn ôl Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: ‘‘Roeddem yn falch o fedru cefnogi penodi’r unigolion hyn i’w swyddi ac yn edrych ymlaen at weld cynnydd yn y nifer sy’n astudio’r pynciau trwy’r Gymraeg yn sgil buddsoddiad y Coleg. Hoffwn ddymuno’r gorau iddynt wrth greu adnoddau a denu darpar fyfyrwyr i’w priod feysydd dros y blynyddoedd nesaf.’’
AU31615