Aberystwyth yn dringo 50 safle yn nhabl cynghrair Prifysgolion y Byd y Times Higher Education

30 Medi 2015

Aberystwyth yn y band 301-350 o’r 800 o sefydliadau ledled y byd sydd wedi eu cynnwys, ac yn dringo i'r 40 uchaf yn y Deyrnas Gyfunol.

£898k i IBERS i gynhyrchu tanwydd gwyrdd ynghynt

24 Medi 2015

Rhan allweddol gwyddonwyr IBERS mewn prosiect £1.8m i ddatblygu'r dechnoleg i blannu'r cnwd ynni miscanthus o hadau.

Y Gyfraith yng Nghymru - ei gwneud hi’n gliriach, yn fwy modern ac yn haws i'w defnyddio

23 Medi 2015

Adran y Gyfraith a Throseddeg yn cynnal ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith i wella ffurf a hygyrchedd y gyfraith yng Nghymru.

Croesawu darlithwyr newydd i Brifysgol Aberystwyth

23 Medi 2015

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cyllido darlithwyr newydd mewn Biofilfeddygaeth a Gwyddor Amgylcheddol.

Aberystwyth yn un o’r dringwyr mwyaf yn nhabl cynghrair The Times/The Sunday Times Good University Guide

18 Medi 2015

Prifysgol Aberystwyth yn dringo 14 lle yn rhifyn diweddaraf The Times / The Sunday Times Good University Guide sydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Sul 20 Medi.

Bwrdd Prosiect Pantycelyn yn cyfarfod am y tro cyntaf

16 Medi 2015

Bwrdd Prosiect Pantycelyn yn dechrau ar y gwaith o ddatblygu briff cynllunio ar gyfer darparu llety newydd cyfrwng Cymraeg.

Aberystwyth yn codi’n sylweddol yn nhabl cynghrair y QS World University Rankings

15 Medi 2015

Aberystwyth yn safle 52 yn y Deyrnas Gyfunol yn ôl tabl diweddaraf y QS World University Rankings.

Fferm Penglais yn barod i groesawu 700 o fyfyrwyr

14 Medi 2015

Llety newydd £45m i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn barod i dderbyn 700 o fyfyrwyr yn ddiweddarach yr wythnos hon, mewn pryd ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.

Aberystwyth ar restr fer Gwobrau Effaith RCUK/PraxisUnico 2015

10 Medi 2015

Aberystwyth ar restr fer Gwobrau Effaith RCUK/PraxisUnico 2015 sy’n cael eu cynnal yn Llundain ddydd Mawrth 15 Medi.

Prosiect newydd £17m i ddatblygu ymchwil gwyddonol

09 Medi 2015

Prifysgol Aberystwyth yn bartner mewn menter newydd £17m i ddenu cymrodyr ymchwil newydd i weithio yng Nghymru.

Aberystwyth yw'r Brifysgol fwyaf diogel yng Nghymru

07 Medi 2015

Aberystwyth yw’r lleoliad mwyaf diogel yng Nghymru i fod yn fyfyriwr yn ôl The Complete University Guide 2015.

Penodi Dr Debra Croft yn Gyfarwyddwr Cydraddoldeb

04 Medi 2015

Bydd Dr Croft yn gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a sicrhau cyfeiriad strategol y Brifysgol ym maes cydraddoldeb.

Rhaglenwyr iPhone ac Apple Watch yn ymgasglu'n Aberystwyth

02 Medi 2015

Prifysgol Aberystwyth yn cynnal pumed gynhadledd flynyddol y Deyrnas Gyfunol ar gyfer datblygwyr meddalwedd Apple, iOSDevUK 5.

Dihangfa’r Ddaear o grafangau rhewllyd yn y gorffennol pell

01 Medi 2015

Tîm rhyngwladol o wyddonwyr sy'n cynnwys yr Athro Michael Hambrey o'r Ganolfan Rhewlifeg yn darganfod sut gwnaeth y Ddaear ddianc o grafangau rhewgell fyd-eang.