Prifysgol Aberystwyth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol

Pafiliwn pinc y maes

Pafiliwn pinc y maes

27 Gorffennaf 2015

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal amrediad eang o ddigwyddiadau academaidd a diwylliannol yn ei stondin yn Eisteddfod Genedlaethol 2015 Maldwyn a’r Gororau, rhwng y 1af a’r 8fed o Awst.

Dydd Llun 3ydd Awst

1.00yp
Lansio Ap Mentro Meifod
Eiri Angharad, myfyrwraig ymchwil o Adran y Gymraeg, yn son am “Deithiau Cerdded ym Mro’r Eisteddfod” yn ystod lansiad “Ap Mentro Meifod”.

2.00yp
Allwch chi gredu’ch llygaid?
Dr Rachel Rahman o’r Adran Seicoleg yn gofyn a yw’r cyfan a welwn yn hollol wir.

3.30yp
Y Gwyll: Cynhyrchu, Creadigrwydd, Cyfleoedd
Cyfle i glywed trafodaeth ddiddorol ar gyfres hynod dditectif poblogaidd S4C “Y Gwyll” rhwng aelodau o’r tîm cynhyrchu, staff a chyn-fyfyrwyr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

I gloi’r diwrnod am 4.30yp, bydd croeso i bawb i’r stondin i wylio seremoni’r Coroni dros baned.

Dydd Mawrth 4ydd Awst

11.00yb
Gwlân
Yr artist Ruth Jên o’r Ysgol Gelf yn trafod ei gwaith diweddaraf gyda’r darlledwr Dei Tomos.

3.00yp
Her y Brifysgol
Cyfle i weld myfyrwyr yn herio staff y Brifysgol mewn cwis dan ofal Dr Russell Davies.

Dydd Mercher 5ed Awst

11.00yb
Mynd yn ôl i Ddyfodol y Fictoriaid
Yr Athro Iwan Morus yn ein cyflwyno i ryfeddodau gwyddonol a thechnolegol y bedwaredd ganrif ar bymtheg  yng nghwmni’r gwyddonydd Fictorianaidd yr Athro Marmaduke Salt.

2.00 a 4.00yp
Aduniad Mawreddog Prifysgol Aberystwyth
Cyfle i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ymgasglu mewn aduniad yn stondin y Brifsgol i gwrdd â hen ffrindiau a hel atgofion.

Dydd Iau 6ed Awst

11.00yb
Talwrn y Trosiadau
Beth yw’r cyfieithiad gorau i’r Gymraeg? Beth yw ei ragoriaethau? Beth yw ei berthynas â’r gwreiddiol ac â chyfieithiadau i ieithoedd eraill? Dyma fydd pwnc llosg ein panel o areithwyr brwd. Pwy ohonynt fydd yn ben, yn ‘Geiliog y Cyfieithiadau’? - Chi sydd i ddewis! Dewch i bleidleisio yn Nhalwrn y Trosiadau 2015. Cefnogir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

1.00yp
Polisi a Chynllunio Iaith: y cynlluniau ymchwil a dysgu diweddaraf yn Aberystwyth
Dr Huw Lewis, Dr Elin Royles a Dr Catrin Edwards o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

2.30yp
Y Cyfarfyddiad ym Mhatagonia: Cymry a’r Brodorion, 1865-1885
Dr Lucy Taylor o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn rhoi’r Wladfa yn ei chyd-destun rhyngwladol.

Dydd Gwener 7fed Awst

12.00yp
12pm Darlith flynyddol E G Bowen
Newid Ymddygiad Ieithyddol
Cyflwyniad i ymchwil doethurol Osian Elias ar newid ymddygiad a chynllunio iaith, gyda ffocws ar ymddygiad ieithyddol pobl ifanc a’r Prosiect Cefnogi Arferion Iaith.

2yp
I’w cadw ar wahân? Cerddoriaeth a Gwleidyddiaeth
Sesiwn ysgafn yng nghwmni staff a chyn-fyfyrwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol i drafod y cysylltiad rhwng cerddoriaeth a gwleidyddiaeth yn niwylliant y Gymru fodern.

3.30yp
Aduniad Ganol Haf UMCA
Cyfle i fyfyrwyr cyfredol UMCA gwrdd ar stondin y Brifysgol dros sgwrs, lluniaeth ysgafn ac adloniant gan Ysgol Sul.

4.30yp
Seremoni’r Cadeirio
Croeso i bawb i stondin Prifysgol Aberystwyth i wylio seremoni’r Cadeirio dros baned.

Y Babell Wyddoniaeth a Thechnoleg
Prifysgol Aberystwyth sy’n noddi’r Babell Wyddoniaeth sydd yn ceisio hyrwyddo Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg ar draws Cymru.  Mae’r adeilad yn cynnwys amrywiaeth o arddangosfeydd sydd yn dangos y datblygiadau gwyddonol diweddaraf ac yn safle darlith wyddonol bob dydd.  Galwch heibio i roi tro ar weithgareddau amrywiol a darganfod mwy am ein gwaith ymchwil arloesol sydd o safon ryngwladol.

AU21815