IBERS yn ymuno â menter pecynnau cynaliadwy Ewropeaidd
Chwith i’r dde: Ymchwilwyr IBERS sy’n gweithio ar becynnu cynaliadwy; Abhishek Somani, Ana Winters, Joe Gallager, Sian Davies, David Bryant, Stephen Taylor, Sreenivas Ravella and David Walker.
23 Gorffennaf 2015
Mae Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn arwain consortiwm "ADMIT BioSuccInnovate", sef un o fentrau Climate-KIC a ariennir gan Sefydliad Arloesi a Thechnoleg Ewrop (EIT), ar y cyd â Reverdia a phartneriaid eraill yn Ewrop.
Bydd y Consortiwm, gyda'r cwmni bioburo CIMV, yn ystyried sut y gellir defnyddio deunydd crai lignogelliwlosig sydd ar gael yn lleol, megis gwenith, gwellt neu'r gwair miscanthus, i gynhyrchu pecynnau plastig bioddiraddadwy i'r marchnadoedd prynwrol, a hynny gan gydweithredu â'r cwmni manwerthu, Waitrose, a'r cynhyrchwyr padelli plastig, Sharpak.
Mae'r prosiect hwn yn cyd-fynd â strategaeth pecynnau cynaliadwy Waitrose, ac mae cwmni Reverdia yn cyfrannu ei dechnoleg asid bio-sycsinig, Biosuccinium™, i helpu i ddatblygu cadwyn werth i becynnau sy'n wirioneddol gynaliadwy.
Dywedodd David Bryant, arweinydd y prosiect yn IBERS, ”Mae IBERS yn chwarae rhan allweddol yn y prosiect drwy arwain ynghylch gwyddoniaeth y planhigion a chydlynu'r gwaith bioburo i gynhyrchu bioblastigau o'r asid sycsidig a geir o siwgrau lignogelliwlosig. Gwnaethom ddewis cydweithio â Reverdia gan eu bod yn gallu darparu a thrwyddedu Biosuccinium™ o ansawdd uchel, gyda thechnoleg gynaliadwy sydd o'r safon orau o'i bath ac sydd hefyd yn llwyddo i wneud yr arbedion gorau o ran nwyon tŷ gwydr.”
Dywedodd Jo Kockelkoren, Cyfarwyddwr Masnachol Byd-eang Reverdia, “Mae'r fenter hon yn adeiladu ar sail ein gwaith i ddatblygu'r farchnad a'n model o bartneriaeth sy'n rhychwantu'r gadwyn werth cyflawn, o'r bio-màs i'r cwsmer.”
A dywedodd Karen Graley, rheolwraig pecynnau a reprograffeg Waitrose, “Defnyddio deunydd crai lignogelliwlosig i gynhyrchu pecynnau plastig o BiosucciniumTM yw un ffordd o sicrhau ein bod yn troedio'n ysgafn ar yr amgylchedd. Gobeithiwn y bydd y prosiect hwn yn cyfrannu at strategaeth pecynnau cynaliadwy Waitrose ar gyfer 2020 a'r tu hwnt, ac yn cefnogi gwaith cydweithredol y partneriaid wrth wneud pecynnau adnewyddadwy yn wirionedd masnachol."
Dywedodd Martin Taylor, Rheolwr-Gyfarwyddwr yn Sharpak, “Rydym yn falch o gael cydweithredu â Reverdia a'r partneriaid eraill yn y Consortiwm. Dim ond drwy gydweithio y gallwn greu cadwyn gyflenwi pecynnau cynaliadwy.”
IBERS
Cydnabyddir yr Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn rhyngwladol fel canolfan ymchwil ac addysgu sy’n cynnig sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang fel diogelwch bwyd, bioynni a chynaladwyedd, ac effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol o lefel genynnau a moleciwlau i organebau a’r amgylchedd. Mae IBERS yn derbyn £10.5m o gyllid ymchwil strategol gan y BBSRC i gefnogi ymchwil tymor hir sy’n cael ei arwain gan genhadaeth, ac mae’n aelod o’r Athrofeydd Biowyddoniaeth Cenedlaethol. Mae IBERS hefyd yn derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, DEFRA a’r Undeb Ewropeaidd.
Reverdia
Menter ar y cyd yw Reverdia, rhwng Royal DSM, sef cwmni gwyddorau bywyd a gwyddorau deunyddiau byd-eang, a Roquette Frères, cwmni starts a deilliadau-starts. Mae Reverdia yn arwain y maes o ran ansawdd, cynaliadwyedd a dibynadwyedd, gan ganolbwyntio ar ddatblygu'r farchnad a datblygiadau cymwysiadau ymarferol. Drwy gyfuno gwybodaeth a phrofiad DSM a Roquette, mae Reverdia yn cynhyrchu, gwerthu a thrwyddedu Biosuccinium™.
Sharpak
Mae gan Sharpak brofiad helaeth o Becynnu Plastig Anhyblyg sydd wedi ei ffurfio drwy ddefnyddio gwres. Fel rhan o Groupe Guillin, mae gan Sharpak fynediad at bortffolio cynnyrch o dros 10,000 o fathau hambwrdd a thechnolegau sy'n cael eu lledaenu ar draws 18 o farchnadoedd Ewropeaidd. Mae buddsoddi yn nyfodol ein cwsmeriaid a gweithwyr wedi ein galluogi i gyrraedd safle rhif un Ewrop fel gwneuthurwr Pecynnu Plastig Anhyblyg. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu atebion pecynnu i'n cwsmeriaid ac yn chwilio’n barhaus am ffyrdd i ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf. Rydym yn cyfuno arloesedd a phrofiad er mwyn darparu pecynnu sy’n cael effaith, heb golli golwg ar ymarferoldeb.
AU23915