Adnewyddu achrediad Sefydliad Siartredig y Gweithwyr Llyfrgell a Gwybodaeth Proffesiynol
23 Mehefin 2015
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn llwyddiannus yn ei chais i adnewyddu ei statws achrededig gyda Sefydliad Siartredig y Gweithwyr Llyfrgell a Gwybodaeth Proffesiynol (CILIP).
Mae’r achrediad gan CILIP, corff achredu proffesiynol mwyaf y DG yn y maes, yn cyfeirio at gyrsiau sy’n cael eu darparu gan Adran Astudiaethau Gwybodaeth y Brifysgol.
Mae'r achrediad yn cwmpasu adolygiad pum mlynedd ar gyfer cyrsiau hir sefydlog yr adran a chynlluniau uwchraddedig yr adran.
Mae'r cymwysterau achrededig yn galluogi graddedigion i weithio tuag at statws Siartredig o fewn yr Athrofa.
Mae'r Adran Astudiaethau Gwybodaeth, sy’n rhan o Athrofa Rheolaeth, y Gyfraith ac Astudiaethau Gwybodaeth, yn cynnig cymwysterau israddedig ac ôl-radd mewn Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth, Gweinyddiaeth Archifau, Astudiaethau Gwybodaeth Ddigidol ac Archifau Rhyngwladol, Cofnodion a Rheoli Gwybodaeth.
Dywedodd yr Athro Andy Henley, cyfarwyddwr yr Athrofa Rheolaeth, y Gyfraith ac Astudiaethau Gwybodaeth: “Rwy'n falch iawn bod yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth wedi sicrhau achrediad 5 blwyddyn lawn arall ar gyfer ei holl gyrsiau gan Sefydliad Siartredig y Gweithwyr Llyfrgell a Gwybodaeth Proffesiynol.
“Hwn yw’r corff achredu proffesiynol mwyaf yn y maes hwn, ac achrediad CILIP yw un o achrediadau mwyaf arwyddocaol sydd gan y Sefydliad ar draws ei phortffolio o gyrsiau. Yn 2016 bydd Astudiaethau Gwybodaeth yn Aberystwyth yn dathlu 30 mlynedd o ddarparu addysg lefel gradd dysgu o bell ar lefelau baglor a meistr ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y sector Llyfrgellyddiaeth a Gwybodaeth, ac mae adnewyddiad yr achrediad hwn yn cadarnhau ein henw da fel un o brif ddarparwyr addysg o'r fath yn y Deyrnas Gyfunol.”
Dyfarnwyd achrediad yn dilyn ymweliad gan aseswyr ar ddiwedd mis Mai.
AU20215