Defnyddio golwg gyfrifiadurol a roboteg i archwilio gwely’r môr ym Mae Ceredigion

Matt Pugh (chwith) a Phil Hughes ar fwrdd  dingi Cyfeillion Bae Ceredigion

Matt Pugh (chwith) a Phil Hughes ar fwrdd dingi Cyfeillion Bae Ceredigion

26 Mawrth 2015

Mae gwyddonwyr o Adran GyfrifiaduregPrifysgol Aberystwyth wedi bod yn gweithio gyda grŵp cadwraeth môr Cyfeillion Bae Ceredigion i ddatblygu technegau gwell ar gyfer astudio gwely'r môr, sy'n hanfodol ar gyfer cadwraeth y môr a rheoli pysgodfeydd.

Mae Bae Ceredigion yn enwog am ei phoblogaethau o ddolffiniaid a llamhidyddion.

Tan yn ddiweddar, roedd y gwaith o fapio a chofnodi gwely'r môr yn cael ei wneud gan ddefnyddio techneg "ymchwilydd a chlipfwrdd" draddodiadol, sy’n gostus ac yn cymryd amser.

Mae'r prosiect hwn wedi bod yn edrych ar sut y gellir edrych ar luniau fideo o wely’r môr drwy ddefnyddio rhaglenni meddalwedd cyfrifiadurol, sydd yn heriol yn ei hunan. Bydd hyn yn cynorthwyo cadwraethwyr i osod cynefinoedd mewn gwahanol ddosbarthiadau.

Cafodd y gwaith ei wneud gan y myfyriwr ôl-raddedig Matt Pugh, yr arbenigwr morol Phil Hughes o Gyfeillion Bae Ceredigion, a Dr Bernie Tiddeman a Dr Hannah Dee o Adran Gyfrifiadureg y Brifysgol.

Dywedodd Phil Hughes: "Y syniad gwreiddiol oedd y gallai technegau golwg cyfrifiadurol a dysgu gan beiriannau roi persbectif newydd ar ddadansoddi fideo tanfor.

Dywedodd Dr Hannah Dee: “Yr her i ni oedd “gosod swbstradau mewn dosbarthiadau”. Yn syml, a yw’n bosibl i ni chwifio camera fideo o gwmpas o dan y dŵr, ac yna defnyddio’r fideo i greu mapiau o wely'r môr.”

"Mae Adnoddau Naturiol Cymru yn defnyddio system sydd yn gosod gwely’r môr mewn nifer o ddosbarthiadau gwahanol, o dywod mân i ardaloedd creigiog. Roeddem am greu fersiwn symlach o hyn gan ddefnyddio technoleg fodern, a sicrhau bod ardaloedd sy’n ymddangos yn debyg yn cael eu gosod yn yr un categorïau.

“Ar ôl i ni gwblhau’r cam hwn, yr her nesaf oedd dadansoddi fideo tanddwr a gasglwyd gan Gyfeillion Bae Ceredigion a Phrifysgol Bangor, i geisio adeiladu dosbarthiad yn awtomatig.”

Cafodd canlyniadau'r astudiaeth eu cyflwyno gan Matt Pugh mewn cynhadledd ryngwladol yn Stockholm, Sweden.

Ychwanegodd Hannah: “Cafwyd cryn lwyddiant wrth wneud y gwaith, ac roedd hyn yn wych o ystyried taw prosiect blwyddyn oedd hwn.”

Mae'r tîm bellach yn edrych ar ffyrdd newydd o gaffael fideo tanfor.

Mae robot cit, Open ROV, wedi cael ei adeiladu a'i brofi mewn llyn cyfagos. Caiff y robot ei reoli gan liniadur, fel arfer o gwch ar yr wyneb. Mae’n gallu gweithio ei ffordd o amgylch gwely’r môr ac yn defnyddio goleuadau a chamerâu i gofnodi'r byd o dan y don.

Mae'r tîm yn gobeithio y bydd y robot yn barod yn yr haf ar gyfer casglu data.

Dywedodd Phil Hughes: "O safbwynt Cyfeillion Bae Ceredigion, yr ydym wedi bod yn falch iawn o gefnogi’r gwaith hwn yn ei ddyddiau cynnar. Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod byddwn yn canolbwyntio ar gael lluniau fideo o ansawdd llawer gwell o wely’r môr ar gyfer prosiectau yn ymwneud â golwg gyfrifiadurol yn y dyfodol.”

"Y gobaith yw y gallai hyn, ynghyd â'r ochr roboteg gael eu datblygu ymhellach, ac mewn ffordd a fyddai'n newid yn sylweddol sut mae data yn cael ei gasglu. Ar hyn o bryd mae rhaid defnyddio llong i gynnal yr arolwg, sy’n creu ôl-troed carbon enfawr, ac oriau o amser unigolyn wrth iddynt werthuso’r fideo a gynhyrchwyd.”

"Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda'r Adran Gyfrifiadureg ar y prosiect teilwng hwn ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio yn y dyfodol.”

Cafodd y prosiect blwyddyn hwn ei ariannu ar y cyd gan Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS) a Chyfeillion Bae Ceredigion.

Mae Matt Pugh yn awr yn astudio ar gyfer PhD ym Mhrifysgol Caeredin, ond mae'r gwaith yn parhau o dan arweiniad Dr Bernie Tiddeman a Dr Hannah Dee o Adran Gyfrifiadureg y Brifysgol.

Ychwanegodd Hannah: “Yn sgil y prosiect blwyddyn hwn, mae cyllid KESS wedi arwain at sefydlu cysylltiadau agosach rhwng cyrff anllywodraethol lleol a Phrifysgol Aberystwyth, tra hefyd yn gwthio ffiniau  gwyddoniaeth monitro dan dŵr, a rhoi i Matt sylfaen ymchwil gadarn er mwyn iddo adeiladu ei ddoethuriaeth.”

AU4115