Ysgoloriaeth Cwrs Haf Cymraeg i ddysgwyr o Batagonia 2015

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Aberystwyth

10 Mawrth 2015

Cyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth ysgoloriaeth newydd i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia eleni, ac yn arbennig i ddathlu’r cysylltiad rhwng Aberystwyth ag Esquel yn nhalaith Chubut ym Mhatagonia.

Cynigir yr ysgoloriaeth i un dysgwr Cymraeg o Batagonia i fynychu’r Cwrs Haf Cymraeg a gynhelir ym  Mhrifysgol Aberystwyth o 3-28 Awst 2015. Yn 2014, roedd 268 o oedolion yn dysgu Cymraeg ym Mhatagonia.

Mae tua 80 o ddysgwyr o Gymru a thu hwnt yn mynychu’r Cwrs Haf bob blwyddyn. Mae’r cwrs yn cynnig cyfle i ddysgwyr ar bob lefel, o ddechreuwyr i ddysgwyr profiadol, i wella eu sgiliau Cymraeg, a chymryd rhan mewn pob math o weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Noddir yr ysgoloriaeth gan Swyddfa Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth. Meddai Ruth Owen Lewis, Cyfarwyddwr y Swyddfa Ryngwladol: “Mae hi’n bleser gan y Swyddfa Ryngwladol i gefnogi’r ysgoloriaeth eleni.  Wrth ddathlu 150 mlynedd ers y glaniad ym Mhatagonia, cofiwn yr unigolion  hynny a fentrodd tu hwnt i ffiniau Cymru ac a oroesodd mewn amgylchiadau anodd dros ben a llwyddo i sefydlu’r Wladfa yn yr Ariannin. Hyderwn y gallwn gynorthwyo unigolyn i wella’i sgiliau Cymraeg, a gobeithiwn y bydd hyn o fantais i eraill ym Mhatagonia.”

Dywedodd Ceris Gruffudd, Ysgrifennydd Cymdeithas Cymru-Ariannin: “Yn ystod y degawdau diwethaf bu tua 60 o oedolion o'r Wladfa yn dilyn Cwrs Haf Canolfan Cymraeg i Oedolion Prifysgol Caerdydd. Fe wnaeth hyn wahaniaeth mawr i'r dosbarthiadau dysgu Cymraeg yn Chubut. Rydym yn ddiolchgar i Brifysgol Aberystwyth am roi cyfle i un arall eleni ddod draw i Gymru ar adeg pan mae nifer dysgwyr y Gymraeg yn y Wladfa yr uchaf a fu yn hanes y Cynllun Dysgu Cymraeg a sefydlwyd ym 1996.”

Cynigir yr ysgoloriaeth i ddysgwyr profiadol ar lefel Ganolradd neu Uwch, a bydd yr ysgoloriaeth yn talu ffi’r cwrs a chostau llety ym Mhrifysgol Aberystwyth. 1 Ebrill 2015 yw’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau. Ceir rhagor o fanylion am yr ysgoloriaeth yma, neu drwy ffonio’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion ar 0800 876 6975.

AU10015