Llwyddiant Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 i Brifysgol Aberystwyth

FfRhY 2014

FfRhY 2014

18 Rhagfyr 2014

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi gwella yn sylweddol ansawdd ei hymchwil yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY) 2014.

Mae’r canlyniadau yn dangos bod 95% o'r gweithgarwch ymchwil a gyflwynwyd gan Brifysgol Aberystwyth o safon a gydnabyddir yn rhyngwladol neu'n uwch, gyda gwaith ymchwil sy'n arwain y byd (4*)  wedi ei nodi ym mhob un o’r 17 Uned Asesu a gyflwynwyd.

Mae'r FfRhY yn disodli'r Ymarfer Asesu Ymchwil blaenorol, a gynhaliwyd yn 2008. Fodd bynnag, mae'r FfRhY bellach hefyd yn mesur effaith yr ymchwil, trwy ystod o astudiaethau achos a gynhyrchwyd yn arbennig; mae'r rhain yn dangos a ydy ymchwil wir yn gwneud gwahaniaeth. Mae hyn yn golygu nad oes modd cymharu canlyniadau 2008 a 2014 yn union, er bod y ddau yn golygu asesu ansawdd cyhoeddiadau gan staff academaidd.

Perfformiodd Prifysgol Aberystwyth yn arbennig o gryf o ran effaith, gyda Chyfartaledd Pwynt Gradd (CPG) o 3.1, sy'n golygu bod gan yr ymchwil a gynhelir yn y Brifysgol arwyddocâd a chyrhaeddiad sylweddol. Pan fydd mesurau o effaith, ansawdd y cyhoeddiadau a'r amgylchedd ymchwil yn cael eu cyfuno, a nifer y staff a gyflwynwyd yn cael ei gymryd i ystyriaeth, mae Aberystwyth ymysg y 50 uchaf o 154 yn y Deyrnas Gyfunol. Pan fydd sefydliadau bach ac arbenigol yn cael eu tynnu allan, mae Aberystwyth yn 37ain yn y DG yn ôl ffon fesur ‘grym ymchwil’. Mae'r Brifysgol hefyd yn y 50 uchaf am y ganran yr ymchwil sydd yn y categori uchaf, 4*.

Croesawodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, y canlyniadau FfRhY 2014, gan ddweud: “Mae hyn yn newyddion gwych i Aberystwyth, ac yr wyf yn llongyfarch cydweithwyr academaidd ar draws y Brifysgol am eu perfformiad rhagorol. Mi fydd effaith yn gynyddol bwysig mewn ymarferion o’r math hwn yn y dyfodol, a dyma le mae ein llwyddiant mwyaf. Ar y cyfan, rydym hefyd wedi gweld gwelliant gwirioneddol o ran ymchwil a wnaed yn y Brifysgol o Gyfartaledd Pwynt Graddfa o 2.48 yn y FfRhY2008 i 2.84 yn y FfRhY 2014. Mae hyn yn dangos bod ein polisi o fonitro ymchwil yn drylwyr wedi gweithio'n dda, gyda chynnydd mewn 4* a 3*, a gostyngiad sylweddol mewn 1* ac ymchwil di-ddosbarth.”

Cyflwynodd y Brifysgol ymchwil i 17 Uned Asesu, gyda dwy yn cael eu cyflwyno ar y cyd â Phrifysgol Bangor, fel rhan o Gynghrair Strategol Prifysgolion Aberystwyth a Bangor. Mae bron i 25% o gyfanswm nifer y staff a gyflwynwyd i’r FfRhY o bob disgyblaeth ar draws y ddwy Brifysgol wedi eu cynnwys yn y ddau gyflwyniadau ar y cyd. Aberystwyth hefyd oedd â’r cyflwyniad cyfrwng Cymraeg mwyaf i FfRhY.

Ychwanegodd yr Athro McMahon: “Hyd yn oed â safonau llawer mwy heriol ar gyfer  cyflwyno, dychwelodd y Brifysgol fwy o staff nag erioed o'r blaen fel rhan o’r FfRhY 2014 – felly cafodd y bar ei osod llawer yn uwch, ond llwyddodd mwy o bobl i’w glirio. Mae hyn yn golygu bod Aberystwyth wedi cyflwyno 77% o’r staff a oedd yn gymwys ar gyfer FfRhY, cyfanswm o 322 o unigolion.”

"Rydym wedi buddsoddi'n helaeth yn ein staff a’n cyfleusterau ymchwil, ac mae'n wych i weld bod canlyniad effaith gyffredinol y Brifysgol ar lefel a ystyrir yn rhagorol yn rhyngwladol. Mae gennym strategaeth glir i adeiladu ar gyfer y FfRhY nesaf, a gwaith i'w wneud mewn nifer o feysydd, ond hefyd ystod o berfformiadau rhagorol. Rydym hefyd yn anfon ein llongyfarchiadau cynhesaf at gydweithwyr ar draws y sector, ac yn arbennig at Gaerdydd, prifysgol yr ydym yn gweithio gyda hi ar amrywiaeth o brosiectau ymchwil, am ei pherfformiad rhagorol fel Prifysgol Grŵp Russell.”

Gwelwyd ardaloedd o ragoriaeth ymchwil penodol yn yr Adrannau Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Daearyddiaeth ac IBERS. Dangosodd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, sef yr orau yng Nghymru, welliant yn ei pherfformiad cymharol ac mae 44% o'i hymchwil o safon byd-eang (4*), a 32% yn rhagorol yn rhyngwladol (3*). Gyda sgôr Cyfartaledd Pwynt Gradd o 3.18, mae'r Adran bellach yn y 7fed safle yn y Deyrnas Gyfunol.

Mae Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear hefyd wedi dal at ei safle fel yr orau yng Nghymru, gyda 78% o'i hymchwil yn cael ei ystyried yn rhyngwladol ragorol neu'n uwch.

Cyflwynodd IBERS gyflwyniadau ymchwil ar y cyd i ddwy Uned Asesiadau, a chafwyd canlyniadau ardderchog gan y naill a’r llall.

Yr adrannau ar y brig o ran effaith oedd yr Ysgol Gelf, yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear a’r Adran Gyfrifiadureg. Roedd 100% o’u heffaith wedi ei asesu’n 3* neu’n 4*.