Gweithdy cyfieithu Cymru ac India

Y tim cyfieithu rhwng y Gymraeg a Bengali

Y tim cyfieithu rhwng y Gymraeg a Bengali

08 Medi 2014

Mae pedwar academydd blaenllaw o Brifysgol Jadavpur (Kolkata, India) yn ymweld a’r Brifysgol rhwng 8-10 Medi i gymryd rhan mewn gweithdy cyfieithu rhwng y Gymraeg a Bengali mewn llenyddiaeth, barddoniaeth a theatr, fel rhan o ddigwyddiad cyntaf yng nghalendr y Ganolfan Cyfieithu Diwylliannol newydd sy’n rhan o’r Athrofa Ieithoedd Llenyddiaeth a Chelfyddydau Creadigol.

Mae ymweliad yr Athro Suchorita Chattopadhyay, yr Athro Ipshita Chanda, Dr Seemantini Gupta ag Dr Sayantan Dasgupta yn cael ei gefnogi gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Mae’r cyfranogwyr Cymraeg yn y gweithdy yn cynnwys y nofelydd a'r cyfieithydd Siân Melangell Dafydd (Prifysgol Paris) sydd hefyd yn olygydd Taliesin, y beirdd Eurig Salisbury (Canolfan Uwch Efrydiau Cymreig a Cheltaidd) a Dr Hywel Griffiths (Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear) y mae eu gwaith eisoes wedi cael eu cyhoeddi mewn ieithoedd Indiaidd, yr arbenigwr theatr Dr Roger Owen (Adran Astudiaethau Teledu Theatr, Ffilm a) a Ned Thomas (TFTS), gyda’i lyfr Bydoedd (2010) sydd wedi ennill sawl gwobr ac yn cael ei gyhoeddi yn Bengali yn hwyrach eleni.

Mae'r gweithdy hwn yn adeiladu ar gyfnewidfeydd blaenorol yn y maes cyfieithu diwylliannol rhwng Cymru ac India, a dyma'r ail weithdy i’w gynnal yn Aberystwyth.

Bydd y gweithdy yn cael ei hwyluso gan yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Cyfieithu Diwylliannol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae'r gwaith a ddewiswyd ar gyfer y gweithdy yn cynnwys ysgrifau diwylliannol y bardd, dramodydd a'r llenor Bengali, Rabindranath Tagore (1860-1941) a enillodd y Wobr Nobel am Lenyddiaeth yn 1913 a detholiad o straeon byrion gan awdur newydd, Tamal Bandyopadhyay.

Mae’r testunau iaith Gymraeg yn cynnwys Tynged yr Iaith a Blodeuwedd gan Saunders Lewis yn ogystal â straeon byrion a barddoniaeth gyfoes.

Bydd y grŵp hefyd yn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru lle mae casgliad sylweddol o ysgrifau Tagore a byddant yn cwrdd â'r Llyfrgell Genedlaethol, yr Athro Aled Jones.

Bydd yr ail weithdy yn cael ei gynnal yn mis Ionawr 2015 yn India ac yn cael ei chynal ym Mhrifysgol Jadavpur.

AU34714