Disgyblion oedran gael ysgol dan anfantais

Dr Benjamin Hopkins

Dr Benjamin Hopkins

21 Mai 2014

Mae ymchwil diweddar i ddiweithdra ymhlith pobl ifanc wedi dangos bod newidiadau i'r system cyngor gyrfaoedd o fewn ysgolion uwchradd wedi creu gwasanaeth gyda “bylchau dwf”.

Canfu ymchwil gan Dr Benjamin Hopkins o’r Ysgol Rheolaeth a Busnes yn Aberystwyth, mewn cydweithrediad â'r Athro Melanie Simms o Brifysgol CaerlÅ·r a Dr Sophie Gamwell o Brifysgol Middlesex, y gallai newidiadau i'r system cyngor gyrfaoedd mewn ysgol olygu bod plant oedran gadael ysgol o dan anfantais yn y farchnad swyddi genedlaethol a rhyngwladol.

Mae rhai ysgolion hyd yn oed yn cyfeirio eu myfyrwyr at wefannau er mwyn iddynt wneud eu hymchwil eu hunain.

Gan ddefnyddio data a gasglwyd o 92 o gyfweliadau gyda phobl ifanc, rheolwyr busnes a chynghorwyr gyrfaoedd proffesiynol, canfu'r ymchwilwyr bod darpariaeth cyngor gyrfaoedd wedi gwanhau wedi i’r cyfrifoldeb amdano gael ei drosglwyddo o awdurdodau lleol i ysgolion.

Yn hytrach, gwelwyd bod pobl ifanc yn cymryd cyngor gan ffrindiau, teulu a gweithwyr ieuenctid, ac weithiau'n cael eu cyfeirio at wefannau yn hytrach na chael cyngor gyrfaoedd wyneb-yn-wyneb yn yr ysgol.

Mae Simms, Hopkins a Gamwell wedi ymchwilio yn eang i’r cyfnod pan fo pobl ifanc yn camu i fyd gwaith, fel yn yr adroddiad Sgiliau ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy (http://www.unionlearn.org.uk/publications/skills-sustainable-employment).

Eglurodd Dr Benjamin Hopkins; “Yng Nghymru, buom yn ymchwilio i fentergarwch, a’r potensial o’i ddefnyddio er mwyn lleihau diweithdra ymhlith pobl ifanc. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi datblygu Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid, gyda’r nod o “roi hwb i hyder mentergarwch pobl ifanc”.

"Mae cyfradd mentergarwch cyfnod cynnar yng Nghymru yn 4.3%, o’i gymharu â chyfartaledd y Deyrnas Gyfunol o 3.4%. Fodd bynnag, mewn ardaloedd gwledig megis canolbarth a gogledd Cymru, mae diffyg cyfleoedd cyflogaeth weithiau'n gorfodi pobl ifanc i fod yn hunangyflogedig yn hytrach na bod y dewis gorau.”

Cafodd y canlyniadau’r ymchwil hwn eu cyflwyno yng nghynhadledd flynyddol 2014 y Gymdeithas Gymdeithasegol Brydeinig ym Mhrifysgol Leeds ar ddydd Gwener 25 Ebrill.

Mae datganiad i'r wasg gan y Gymdeithas Gymdeithasegol Brydeinig sy’n son am yr ymchwil ar gael yma.

AU18214