Beth yw gwerth Svalbard?

Samantha Saville

Samantha Saville

13 Mai 2014

Mae myfyrwraig ôl-raddedig o Brifysgol Aberystwyth, Samantha Saville, yn dechrau ar ymweliad dau fis ag ynysoedd Svalbard er mwyn deall mwy am brosesau gwneud penderfyniadau’r gymuned.

Cyllidwyd gwaith Samantha, sydd o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Bydd yn casglu safbwyntiau trigolion ac ymwelwyr i'w helpu i ddatblygu darlun o Svalbard sy'n mynd y tu hwnt i rewlifoedd ac eirth gwyn.

Grŵp o ynysoedd o fewn y cylch Arctig sy’n cael eu llywodraethu gan Norwy yw Svalbard. Ers canrif bu cloddio am lo yno ac yn draddodiadol dyma fu ffocws y cymunedau o Norwyiaid a Rwsiaid sy’n byw yno. Bellach mae twristiaeth, ymchwil ac addysg hefyd yn ddiwydiannau allweddol ar gyfer y boblogaeth ryngwladol o 2,500.

Cyn dechrau ar ei hymweliad, dywedodd Samantha; “Mae’n amlwg bod Svalbard yn le pwysig: yn wleidyddol, yn economaidd ac fel cartref i bobl, rhywogaethau eraill a'r tirweddau y mae'n eu cefnogi. Bydd yr ymchwil hwn yn astudio’r berthynas rhwng y ffactorau hyn, gan ofyn beth sy’n cael ei werthfawrogi yn Svalbard, sut y caiff ei werthfawrogi a beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer y rhai sy'n byw yma ac mewn cyd-destun ehangach?

“Yn gynyddol rydym yn gorfod gwneud dewisiadau anodd, blaenoriaethau ar gyfer cyllido, datblygu, pwyso a mesur effeithiau presennol â rhai'r dyfodol a chyfiawnhau’r penderfyniadau hyn. Rydym yn aml yn troi at systemau o fesur a chymharu gwerth canlyniadau i wneud y dewisiadau hyn, ond anaml y byddwn yn herio’r meini prawf a'r rhagdybiaethau sy’n sail i fesuriadau o'r fath. O ganlyniad mae ymchwil i systemau gwerthoedd yn derbyn mwy a mwy o sylw a chefnogaeth gan ystod eang o gyrff cyllido, ac felly mae hwn yn amser hanfodol i fynd i'r afael â chwestiynau o'r fath.”

Mae Svalbard yn achos unigryw a delfrydol i’w archwilio o ystyried y tensiwn rhwng yr amrywiaeth o wahanol weithgareddau a nodweddion daearyddol sydd yma, o gloddio glo i dwristiaeth, diogelu'r amgylchedd, ymchwil gwyddonol o’r safon uchaf, a hinsawdd arctig sy’n newid, a gwella ansawdd bywyd a chyfleusterau.

Y gobaith yw y bydd yr ymchwil hwn nid yn unig yn helpu i ehangu gwybodaeth y cyhoedd am fywyd cymdeithasol yn Svalbard, ond hefyd hyrwyddo dealltwriaeth bellach o sut yr ydym yn delio â thensiynau o'r fath, ac o bosibl, sut y gellir gwella’r prosesau o werthuso yn Svalbard a thu hwnt.

Haf llynedd oedd y tro cyntaf i Samantha ymweld â Svalbard a dechreuodd ar ei hymchwil yn Longyearbyen, Barentsburg a Pyramiden. Ei gobaith yw adeiladu ar y gwaith hwn eleni, gan ddychwelyd i bob un o’r tair tref yn ystod dau fis y gwaith maes.

Ychwanegodd Samantha; “Yn gymdeithasol mae Svalbard yn lle hynod ddiddorol. O ystyried ei phoblogaeth fach a’i lleoliad anghysbell, mae llawer yn digwydd yma, rhywbeth a all fynd ar goll ym merw’r holl waith gwyddonol gwych sy'n digwydd yma. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda thrigolion a chyd ymwelwyr i archwilio’r materion sy’n pwyso fwyaf ar fywyd yn Svalbard.”

Gellir dilyn blog prosiect Samantha at http://samsaville.weebly.com/

AU17914