Diogelwch bwyd a dŵr yn Affrica
Newyn yn Ethiopia Credit: USAID Africa Bureau
13 Medi 2013
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cynhadledd ryngwladol o bwys ar wleidyddiaeth diogelwch bwyd a dŵr yn Affrica ar 18, 19 a 20 Medi.
Mae'r siaradwyr yn cynnwys Jean Ping, Cyn Lywydd yr Undeb Affricanaidd , Llywydd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig a Gweinidog Tramor Gabon; Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Prifysgol Aberystwyth a chyn Gynrychiolydd Parhaol y DG i'r Cenhedloedd Unedig , Myles Wickstead o’r Comisiwn dros Affrica ac Alun Davies AC, y Gweinidog dros Adnoddau Naturiol a Bwyd, Llywodraeth Cymru.
Mae'r gynhadledd yn dwyn ynghyd arbenigwyr mewn cysylltiadau rhyngwladol, ymchwil ar fwyd a dŵr, y gyfraith, y gwyddorau naturiol, daearyddiaeth, astudiaethau datblygu a diplomyddiaeth.
Bydd yn mynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd a dŵr yn Affrica ar amryw lefelau - byd-eang, rhyngwladol, cenedlaethol a lleol - mewn perthynas â'r ansicrwydd a grëwyd gan newid yn yr hinsawdd a gofynion gwleidyddiaeth.
Mae’r Athro Ken Booth, Cyfarwyddwr Sefydliad Coffa David Davies yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, yn un o drefnwyr y gynhadledd.
"Diogelwch bwyd a dŵr yw’r anghenion dynol mwyaf sylfaenol, ac ar gyfandir Affrica y mae’r anghenion hynny i’w gweld fwyaf”, meddai.
"Bydd sut y bydd yr heriau mawr i ddiwallu'r anghenion hyn yn cael eu bodloni yn ystod y degawdau sydd i ddod yn dweud llawer am y ffordd y bydd y byd yn ymateb i faterion fel newid yn yr hinsawdd, tlodi byd-eang, arweinyddiaeth wleidyddol y byd, ymchwil wyddonol, a gwrthdaro rhyngwladol.
"Mae Prifysgol Aberystwyth yn arwain yn rhyngwladol mewn addysgu ac ymchwil aml-ddisgyblaethol ar y materion hyn drwy ddod â rhai o unigolion uchel eu parch ynghyd o feysydd diplomyddiaeth, ymchwil gwyddonol, sefydliadau all-lywodraeth, ac astudiaeth o wleidyddiaeth ryngwladol.
"Drwy wneud hyn rydym yn gobeithio egluro'r materion gwleidyddol sydd wrth wraidd heriau diogelwch bwyd a dŵr, a chynorthwyo polisi Cyhoeddus i ymgysylltu'n fwy effeithiol â nhw", ychwanegodd.
Mae'r gynhadledd bwysig yn ffrwyth cydweithio rhwng Sefydliad Coffa David Davies, Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, ac Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth , a Chonsortiwm Newid Hinsawdd Cymru a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am y gynhadledd i’w gael ar y wefan http://c3wales.org/event_details/ddmi-human-dimensions-of-climate-change-conference/.
Dilynwch y gynhadledd ar Twitter #FWSinAfrica.
AU16813