Gwobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil
Vitae
14 Chwefror 2013
Heddiw (dydd Iau 14 Chwefror), cadarnhaodd Vitae, sefydliad yn y DU sy’n hyrwyddo ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch, fod Prifysgol Aberystwyth ymhlith 12 sefydliad yn y DU sydd wedi llwyddo i gadw’r wobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil gan y Comisiwn Ewropeaidd.
Mae'r Wobr yn dangos ymrwymiad prifysgol i wella amodau gwaith a datblygu gyrfa ar gyfer staff ymchwil, a fydd yn ei dro yn gwella maint, ansawdd ac effaith ymchwil er budd cymdeithas ac economi’r DU.
Gary Reed, Pennaeth y Swyddfa Ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n esbonio, "Roedd hi’n hynod o bwysig ein bod yn cadw’r wobr hon. Mae'n dangos y camau mae Aberystwyth wedi eu gwneud i wella profiad staff ymchwil a bydd yn ein helpu i ddenu ymchwilwyr a chyllid ymchwil allanol yn y dyfodol."
"Mae llawer mwy i'w wneud. Rydym yn edrych ymlaen at weithredu'r cynllun dwy flynedd, ac yn benodol, adolygu ein darpariaeth datblygu ymchwilwyr a lansio rhaglen newydd ar gyfer ymchwilwyr o bob lefel ar draws y Brifysgol. "
Dyweddodd y panel sy’n adolygu ceisiadau, "Ar y cyfan, roedd y panel yn falch o'r cynnydd y mae sefydliadau wedi eu dangos ac yn croesawu eu cynlluniau newydd i wella profiadau staff ymchwil, yn enwedig eu gyrfa a’u datblygiad proffesiynol."
Ddwy flynedd ar ôl ennill yr Wobr, mae sefydliadau yn ymgymryd ag adolygiad dwy flynedd mewnol i asesu cynnydd yn erbyn eu strategaeth a chynllun gweithredu. Maent hefyd yn nodi eu blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol a sut y byddant yn mesur llwyddiant yn y gwerthusiad pedair blynedd. Caiff y rhain eu hadolygu gan banel o arbenigwyr i gadarnhau bod y sefydliad yn cadw’r Wobr. www.vitae.ac.uk/hrexcellencenextsteps
Bellach mae saith deg dau sefydliad yn y DU â Gwobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil sy'n eu hymrwymo i raglen o welliannau mewn amodau gweithio ar gyfer ymchwilwyr a gwerthuso mewnol ac allanol. Mae pum deg saith o sefydliadau ledled Ewrop wedi ennill y Wobr.
Er mwyn ennill y Wobr, mae’n rhaid i gyflogwyr a chyllidwyr ymchwilwyr ddangos cynlluniau gweithredu cadarn i wella sut maent yn denu, rheoli a datblygu staff ymchwil. Mae hyn yn rhan o'r strategaeth a amlinellir yn y Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfaol Ymchwilwyr i gynyddu atyniad a chynaliadwyedd gyrfaoedd ymchwil yn y DU, ac i wella maint, ansawdd ac effaith ymchwil er budd cymdeithas ac economi’r DU .
Y deuddeg mudiad sy’n cadw eu dyfarniad yw Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Aberdeen, Prifysgol Bryste, Prifysgol Caergrawnt, Prifysgol Edinburgh Napier, Prifysgol Glasgow, Prifysgol Hertfordshire, Sefydliad Ymchwil Canser, Prifysgol Leeds, London School of Economics and Politics, Prifysgol Loughborough a Phrifysgol Abertawe.
AU5813