Cyfrifiadura Gwyrdd
Cyfrifiadura Gwyrdd
20 Mai 2011
Rhwng 13.00 a 14.00 ddydd Gwener 20 Mai, bydd Tim Davies a Rob Johnson o’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn rhoi cyflwyniad yn ystafell A14 Hugh Owen ar brosiect PAWS (Sustem Diffodd a Deffro) a ariannwyd gan JISC, sef rhaglen gyfrifiadurol sy’n arbed trydan drwy ddiffodd cyfrifiaduron segur.
Dyma a ddywedodd Rob Johnson o adran Gwasanaethau Gwybodaeth Aberystwyth yn gynharach eleni wrth iddo siarad am lwyddiant y prosiect hyd yn hyn: ‘Mae PAWS, Marc 1, eisoes wedi arbed oddeutu £25,000 o gostau trydan, ac wrth gwrs, yn bwysicach byth, wedi arbed rhyw 185 tunnell o allyriadau CO2 ers ei chyflwyno ym mis Gorffennaf 2010. Gobeithio y byddwn ni’n dyblu o leiaf yr arbedion hyn wrth roi’r rhaglen ar waith ar gyfrifiaduron y staff, ac yn arbed mwy byth drwy ei rhoi ar waith mewn sefydliadau eraill’.
Bydd Mr Johnson a’i gydweithiwr Tim Davies yn achub ar y cyfle hwn i ddisgrifio cam nesaf datblygiad y prosiect a’r effaith y gallai ei chael ar arbedion trydan drwy’r Brifysgol i gyd.