Diwrnod EwroHwyl

03 Mai 2011

Mae Canolfan Astudiaethau Ewropeaidd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal  diwrnod o hwyl Ewropeaidd ar y 12fed o Fai 2011 rhwng 10.00 a 14.30 yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth i ddathlu Diwrnod Ewrop. Pwrpas Diwrnod Ewrop yw magu cysylltiad agosach rhwng Ewrop a’i dinasyddion a nod Diwrnod Hwyl Ewrop yw codi ymwybyddiaeth am yr Undeb Ewropeaidd drwy gynnig cyfle i’r gymuned ddysgu mwy am le Cymru yn y Ewrop. 

Bydd y digwyddiad, sydd wedi ei noddi gan Swyddfa’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru a’i drefnu gan fyfyrwyr Canolfan Astudiaethau Ewropeaidd, yn cynnig rhaglen rad ac am ddim yng Nghanolfan y Celfyddydau, gan gynnwys cerddoriaeth, stondinau gwybodaeth, arddangosfa ffotograffiaeth, a sgyrsiau gan  Ganolfan Astudiaethau Ewropeaidd a Chomisiwn yr Undeb Ewropeaidd, cwis Ewropeaidd a dangosiadau ffilm yn rhad ac am ddim. Bydd Canolfan y Celfyddydau hefyd yn cynnig bwydlen ar thema Ewropeaidd yn ystod y diwrnod.

AU9811