Uwch-gyfrifiadur newydd
22 Mawrth 2011
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw taw’r cwmni technoleg byd-eang enfawr Fujitsu fydd yn sefydlu partneriaeth gyda Phrifysgolion o Gymru i greu rhwydwaith uwch gyfrifiaduro o safon fyd-eang unigryw gwerth £40 miliwn, sefydliad ymchwil a datblygiadau arloesol ac academi sgiliau.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud yng Nghaerdydd heddiw, dydd Mawrth 22ain Mawrth gan Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth,
Mae Aberystwyth yn un o chwe phrifysgol sydd yn rhan o Cyfrifiaduro Perfformiad Uchel Cymru (HPC Cymru), datblygiad a fydd yn darparu’r dechnoleg gyfrifiaduro fwyaf datblygedig sydd ar gael i Gymru.
Bydd prif ganolfannau HPC Cymru yng Nghaerdydd ac Abertawe/Penfro. Cysylltir y rhain gyda sbôcs yn Abertawe, Aberystwyth, Bangor a Phrifysgol Morgannwg â chyswllt pellach gyda Phrifysgolion Cynghrair Prifysgol Cymru a chanolfannau datblygiadau arloesol busnes drwy Gymru.
Mae’r cytundeb werth £15 miliwn dros bedair blynedd i Fujitsu a nhw fydd yn darparu’r rhwydwaith a’r gwasanaethau. Bydd gwaith ar y cynllun yn dechrau yn syth a bydd yn cynnwys cefnogaeth gan bartneriaid cyfarwydd megis Microsoft ac Intel. Y nod yw bod HPC Cymru yn weithredol erbyn diwedd y flwyddyn hon.
Wrth ddisgrifio’r prosiect fel buddsoddiad mawr yn nyfodol Cymru, dywedodd Ieuan Wyn Jones: “Bydd HPC Cymru yn darparu cefnogaeth hanfodol ar gyfer sectorau diwydiant allweddol yn ogystal ag ysgogi tyfiant mewn TGCh a diwydiannau eraill. Mae’n cefnogi ein rhaglen Adnewyddu Economaidd gan roi mantais gystadleuol i fusnesau. Bydd hyn yn annog diwydiant sy’n ychwanegu gwerth uwch ac yn gwneud Cymru yn lle deniadol ar gyfer buddsoddiad o werth uchel.”
Dywedodd yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a chadeirydd dros dro HPC Cymru: ““Mae hwn yn enghraifft wych o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn cydweithio er mwyn cyrraedd nod cyffredin. Ni fyddai’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl heb ymroddiad cymaint o bobl sy’n gweithio o fewn addysg uwch a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r gwaith tîm a’r cydweithio wedi bod y rhagorol ac yn galonogol ar gyfer y dyfodol.”
Yr Athro Richard Lucas yw arweinydd Uned Arsylwi’r Ddaear yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol ac mae’n gweithio’n agos gyda chwmni o Aberystwyth, Environment Systems Ltd, sydd yn darparu gwasanaeth ymgynghorol a gwybodaeth amgylcheddol a daearyddol. Byddant ymysg y rhai fydd yn elwa o’r rhwydwaith newydd hwn.
“Mae nifer o’r setiau data yn ein hymchwil yn fawr iawn”, dywedodd. “Mae’r data o synwyryddion optegol a radar o’r gofod yr ydym yn ei ddefnyddio yn cynnwys gwledydd cyfan (e.e. Awstralia a Chile) ac mae’r gwaith o’i gasglu yn parhau. Mae’r setiau data cyfres amser yma yn cynnig mewnwelediad unigryw i gyflwr hanesyddol a phresennol tirweddau ac yn ein galluogi i ddeall, adeiladu modelau a rhagweld newidiadau all ddigwydd yn y dyfodol.”
“Mae maint a chost prosesu’r data hwn yn enfawr. Bydd HPC yn ein galluogi i ddefnyddio’r data sydd eisoes ar gael a’r hyn sydd newydd ei gasglu ac yn ein gwneud yn fwy hyderus o safbwynt ymwneud â phrosiectau mwy o faint a fydd o fudd i ystod eang o ddefnyddwyr.”
“Gyda’r hyn y mae HPC yn ei gynnig mae gennym ni'r gallu i brosesu a dadansoddi’r data yma er mwyn ymateb i faterion sydd yn ymwneud gyda dylanwad dynol ar dirweddau a’r newidiadau sydd yn gysylltiedig gydag amrywiadau yn yr hinsawdd.”