Sôn am wyddoniaeth

Disgyblion o Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn dysgu am gemeg bresych coch.

Disgyblion o Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn dysgu am gemeg bresych coch.

11 Mawrth 2011

Bydd yr ExoMars Rover, K9 - cyfaill Dr Who, ceffyl mecanyddol a phlanetariwm  yn rhan o arddangosfa wyddoniaeth tri diwrnod sydd yn cael ei threfnu gan Brifysgol Aberystwyth fel rhan o ddathliadau Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg 2011.

Eisoes mae mwy na 1000 o ddisgyblion ysgol o Geredigion a Phowys wedi trefnu i ymweld ag arddangosfa Sôn am Wyddoniaeth sydd yn cael ei chynnal ar ddydd Mawrth 15fed, dydd Mercher 16eg a dydd Iau 17eg o Fawrth yn y Gawell Chwaraeon ar gampws Penglais y Brifysgol.

Yn ogystal mae’r trefnwyr am estyn gwahoddiad cynnes i aeldau o’r cyhoedd gan y bydd sesiwn dydd Mercher yn parhau ar agor tan 6 yr hwyr. Oriau agor dydd Mawrth a dydd Iau yw 10 y bore tan 3 y prynhawn.

Bydd arddangosfa yn cynnwys eitemau gan adrannau gwyddoniaeth y Brifysgol (Mathemateg a Ffiseg, Cyfrifiadureg, Seicoleg, Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Chefn Gwlad,  a  Gwasnaethau Gwybodaeth), Cyngor Sir Ceredigion, Y Ganolfan Dechnoleg Amgen, Eco Art a’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

Dywedodd Roger Morel; “Nod Sôn am Wyddoniaeth yw arddangos y gwaith gwyddonol rhagorol sydd yn cael ei wneud ym Mhrifysgol Aberystwyth a llefydd eraill mewn ffordd sydd yn ysbrydoli ac yn cymell pobl i ehangu eu gwybodaeth a thanlinellu pwysigrwydd gwyddoniaeth a’i mwynhad ohono.”

Trefnir Sôn am Wyddoniaeth gan y Ganolfan Ehangu Mynediad a Chynhwysiad Cymdeithasol Prifysgol Aberystwyth.

Trefnir Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg gan y Gymdeithas Wyddoniaeth Brydeinig ac mae’n cael ei chynnal rhwng dydd Gwener yr 11eg a dydd Sul yr 20fed o Fawrth.