Penodi Is-Ganghellor

Yr Athro April McMahon

Yr Athro April McMahon

25 Ionawr 2011

Penodwyd yr Athro April McMahon yn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

Ar hyn o bryd, mae’r Athro McMahon yn Is-Brifathro Polisi Cynllunio, Adnoddau ac Ymchwil ym Mhrifysgol Caeredin. Fe fydd yn olynu’r Athro Noel Lloyd ar 1af o Awst 2011.

Yn frodor o Ororau’r Alban ac yn rhugl yn y Sgoteg, enillodd yr Athro McMahon radd MA ym maes Iaith ac Ieithyddiaeth Saesneg ac yna Doethuriaeth ym maes Iaith Saesneg ym Mhrifysgol Caeredin.

Bu’n dysgu yn yr Adran Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt am 12 mlynedd, lle’r oedd hefyd yn Gymrawd yng Ngholeg Selwyn, a bu’n Athro Iaith ac Ieithyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Sheffield o 2000 tan 2004.

Yn 2005 aeth yr Athro McMahon yn ei hôl i Brifysgol Caeredin ar ôl ei phenodi yn Athro Forbes Iaith Saesneg ac yn bennaeth ar yr Adran Iaith ac Ieithyddiaeth Saesneg. Yn dilyn hyn cafodd ei phenodi’n Bennaeth Coleg y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol cyn dechrau ar ei swydd bresennol yn Is-Brifathro ym mis Medi 2009.

Wrth sôn am ei phenodiad meddai’r Athro McMahon:
“Rydw i wrth fy modd â’r syniad o arwain Prifysgol Aberystwyth ac yn edrych ymlaen at weithio’n gadarnhaol mewn amgylchedd dwyieithog a byw mewn ardal o Gymru sydd mor fywiog yn ddiwylliannol. Mae hwn yn gyfnod o heriau a chyfleoedd i brifysgolion ac rwyf yn edrych ymlaen at gael gweithio gyda staff a myfyrwyr er mwyn arwain y Brifysgol drwy’r cyfnod nesaf yn ei datblygiad.”

Meddai Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Prifysgol Aberystwyth:
“Mae prifysgolion yn wynebu cyfnod o newid digyffelyb ac rwy’n arbennig o falch fod  Aberystwyth wedi llwyddo i ddenu arweinydd newydd o safon yr Athro McMahon. Mae hi’n olynydd teilwng iawn i’r Athro Noel Lloyd, ac edrychaf ymlaen yn fawr i weithio gyda hi er mwyn datblygu Prifysgol a dywysir gan ymchwil, sy’n gystadleuol ar lwyfan byd-eang, ac sydd hefyd yn cyflawni ei hymrwymiadau yn rhanbarthol a chenedlaethol.”

Mae’r Athro McMahon yn ieithydd brwd ac yn siarad Ffrangeg, Almaeneg a rhywfaint o Aeleg yr Alban. Bydd yn mynd ati i ddysgu’r Gymraeg yn ystod y misoedd nesaf.

Ieithyddiaeth yw ei disgyblaeth academaidd. Mae ei hymchwil wedi canolbwyntio ar gymariaethau rhwng gwahanol dafodiaethau Saesneg, gyda diddordeb arbennig mewn Sgoteg, sut mae ieithoedd yn newid, astudiaethau amlddisgyblaethol o’r berthynas deuluol rhwng ieithoedd, a goblygiadau ieithoedd mwyafrifol tresmasol.

Y mae hi’n awdur ac yn gydawdur nifer o gyfrolau, gan gynnwys Lexical Phonology and the History of English (Gwasg Prifysgol Caergrawnt), Change, Chance, and Optimality (Gwasg Prifysgol Rhydychen), Understanding LanguageChange (Gwasg Prifysgol Caergrawnt), An Introduction to English Phonology (Gwasg Prifysgol Caeredin) a hi yw cyd-olygydd y cyfnodolyn English Language and Linguistics a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Caergrawnt.

Y mae’n Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol Caeredin ac o’r Academi Brydeinig ac yn aelod o Gyngor yr Academi Brydeinig.

AU1011