Hyfforddi athrawon

Graddio.

Graddio.

14 Ionawr 2011

Bydd y Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones,  yn lansio  Canolfan newydd Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru  ar ddechrau cyfarfod blynyddol Llys Prifysgol Bangor  heddiw (14 Ionawr 2011).

Cynhelir y cyfarfod yn Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor. Bydd y cyfarfod yn ymuno drwy gyswllt fideo byw  â thros 150 o staff, myfyrwyr a mentoriaid ysgol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd cyswllt fideo byw hefyd â stiwdio  Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru  yng Nghaerdydd.

Mae Canolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru yn cael ei rheoli ar y cyd gan Brifysgolion Bangor ac Aberystwyth ac mae’n un o dair canolfan genedlaethol.  Yn weithredol er 2010, mae’r Ganolfan yn hyfforddi athrawon Cynradd ac Uwchradd ac yn gweithio gydag ysgolion Cynradd ac Uwchradd ar draws gogledd a chanolbarth Cymru. Mae'r cydweithio hwn yn digwydd yng nghyd-destun partneriaeth strategol ehangach rhwng Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth ym maes Ymchwil a Menter.

Meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones: “Mae lansio’r ganolfan newydd yma yn ddechrau’r hyn fydd yn bartneriaeth lwyddiannus, rwy’n sicr, rhwng Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth i ddarparu hyfforddiant cynhwysfawr i athrawon ar draws gogledd a chanolbarth Cymru. Rwy’n siŵr y bydd y Ganolfan Addysg Athrawon newydd hon yn enghraifft ragorol arall o’r trefniadau cydweithio a welir rhwng adrannau prifysgol yng Nghymru. Rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r Ganolfan, a’i staff, yn y dyfodol.”

Dyma oedd gan Yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, i’w ddweud: “Rydw i’n falch iawn o weld lansio’r Ganolfan newydd yma. Mae’n dyst i gydweithio rhagorol rhwng y ddwy brifysgol ac mae’n rhan o bartneriaeth ehangach sy’n parhau i ddatblygu ac ehangu. Rwy’n sylweddoli hefyd y gwaith manwl sydd wedi cael ei wneud i sicrhau effeithiolrwydd y ddarpariaeth – mae’n enghraifft dda iawn o’r hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio. Mae’r rhwydwaith  eang o bartneriaethau gydag ysgolion ar draws canolbarth a gogledd Cymru yn arbennig o werthfawr ac o fudd i’r ardaloedd yma.”

Meddai’r Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor:
“Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn. Mae staff yn y ddau sefydliad wedi gweithio’n eithriadol galed i wneud hyn yn llwyddiant gan nodi a rhannu ymarfer da. Mae’r ailgyflunio wedi arwain at fwy o ddefnydd o dechnoleg newydd gan gynnwys cyfarpar fideo-gynadledda sydd wedi’i osod mewn ystafelloedd dysgu mawr yn y ddwy Brifysgol. Mae hyn yn ein galluogi i rannu adnoddau ac arbenigaeth yn well.

Datblygwyd partneriaethau gyda dros 100 o ysgolion uwchradd a chyda dros 350 o ysgolion cynradd. Mae ysgolion bellach yn gweithio gydag un Ganolfan yn hytrach na chyda dwy brifysgol, gan gael gwared ar ddyblygu a dryswch oherwydd systemau a dogfennau gwahanol.”

Mae creu tair Canolfan Addysg Athrawon yng Nghymru yn ganlyniad polisi'r Llywodraeth sydd wedi annog ail-gyflunio ar draws y sector prifysgolion ac yn ymateb i ostyngiad sylweddol yn y lleoedd hyfforddi athrawon sydd ar gael.

Mae myfyrwyr ym Mangor yn astudio cyrsiau ar lefel gynradd, y cwrs BA tair blynedd mewn Addysg Gynradd (Statws Athro Cymwysedig) a'r cwrs blwyddyn Tystysgrif Ôl-radd mewn Addysg Gynradd. Mae Bangor ac Aberystwyth yn cynnig rhaglenni TAR Uwchradd mewn gwyddoniaeth a Chymraeg.

Mae Aberystwyth yn cynnig hyfforddiant i'r sector Uwchradd mewn Saesneg a Drama, Daearyddiaeth, Hanes, TGCh ac Ieithoedd Modern. Mae Bangor hefyd yn cynnig cyrsiau TAR Uwchradd mewn Celf, Mathemateg, Cerddoriaeth, Addysg Gorfforol ac Addysg Grefyddol.

Hefyd mae Bangor yn parhau i gynnig y cwrs BSc Uwchradd (SAC) mewn Dylunio a Thechnoleg. Mae’r holl gyrsiau a gynigir yn y ddau sefydliad yn dal i fod ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a thrwy gyfrwng y Saesneg.

AU08/11