Anrhydeddu biolegydd môr

Dr John Fish

Dr John Fish

03 Ionawr 2011

Anrhydeddwyd Dr John Fish o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) gyda MBE am ei wasanaeth i’r diwydiant pysgota a’r amgylchedd morol yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd.

Daeth Dr Fish, sydd yn fiolegydd môr, i weithio yn Adran Sŵoleg y Brifysgol yn 1965 a daeth yn uwch ddarlithydd yn 1980. Cafodd ei benodi yn bennaeth Sefydliad y Gwyddorau Biolegol yn 2002, swydd yn bu ynddi tan 2007, a bu’n Ddeon y Gwyddorau rhwng 2006 a 2008. 

Mae ymchwil Dr Fish wedi canolbwyntio ar ecoleg arfordirol ac aberoedd a rheolaeth pysgodfeydd y glannau. Am nifer o flynyddoedd bu’n gweithio ar helaethrwydd stoc a rheolaeth pysgodfa cimychiaid Bae Ceredigion, ac yn fwy diweddar mae wedi bod yn cydweithio’n agos â physgotwyr lleol ar reolaeth gynaliadwy pysgodfa economaidd bwysig corgimychiaid Bae Ceredigion, ymchwil sydd yn parhau.

Mae natur ymarferol y gwaith yn cael ei adlewyrchu yn y cysylltiadau cryf sydd wedi eu sefydlu rhyngddo a physgodfeydd Cymru drwy Gymdeithas Pysgotwyr Bae Ceredigion a Ffederasiwn Cymdeithasau Pysgotwyr Cymru.

Rhwng 1993 a 2005 bu’n gadeirydd Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd Cymru a’r Gogledd Orllewin - penodiad gweinidogaethol gan y Swyddfa Gymreig, a Chymdeithas Pwyllgorau Pysgodfeydd Lloegr a Chymru rhwng 1995 a 2005.

Mewn ymateb i’r anrhydedd dywedodd Dr Fish; “roedd cael fy mhenodi yn MBE yn syndod ac yn hyfrydwch. Mae cael cydnabyddiaeth am fy ngwaith yn y ffordd yma yn anrhydedd mawr. Rwy’n arbennig o falch fod fy ngwaith gyda’r diwydiant pysgota a’r cyfraniad i’r amgylchedd morol yn cael ei nodi gan fod hyn yn cydnabod yr ymchwil yr wyf wedi bod yn ei wneud gyda chydweithwyr a myfyrwyr ymchwil ers nifer o flynyddoedd.”

Mae Cyfarwyddwr IBERS, yr Athro Wayne Powell, wedi ei longyfarch. “Rwyf i a’m cydweithwyr yn IBERS yn falch iawn fod gwaith Dr Fish wedi ei gydnabod gydag anrhydedd yr MBE. Mae wedi gwneud cyfraniad hirdymor at Brifysgol Aberystwyth ac fel cydweithiwr ac mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth bellach o’i gyfraniad eithriadol at amaeth dŵr yng Nghymru ac yn rhyngwladol.”

Er ei fod wedi ymddeol mae Dr Fish yn parhau i ddysgu rhan amser ar raglenni is ac uwchraddedig yn IBERS. Yn ddiweddar cwblhaodd y gwaith ar drydydd argraffiad ei werslyfr A Student’s Guide to the Sea Shore, cyfrol y mae’n gydawdur arni gyda’i wraig Sue, ac sydd i’w chyhoeddi’r wythnos nesaf gan Wasg Prifysgol Caergrawnt.

AU0111