Wythnos Gynaliadwyedd Cymru
Dr Pip Nicholas a'r beic trydan y mae wedi brynu fel rhan o'r cynllun Beicio-i'r-Gwaith.
12 Mai 2010
Bydd y pwyslais ar ymuno gyda, a chwarae rhan yn y cynlluniau sydd eisoes wedi eu sefydlu gan y Brifysgol ar gyfer myfyrwyr a staff er mwyn diogelu a gwella'r amgylchedd gwych mae’n ei gynnig.
Menter Llywodraeth Cynulliad Cymru yw Wythnos Gynaliadwyedd Cymru sydd yn gwahodd unigolion a sefydliadau o bob sector a chymunedau i weithredu er mwyn gwneud Cymru yn fwy cynaliadwy, i ddathlu a hyrwyddo'r hyn y maent yn ei wneud yn barod ac i fod yn rhan o rwydwaith sydd yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn Cymru yn fwy cynaliadwy.
Dywedodd Dr John Harries, Dirprwy Is-Ganghellor, “Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch iawn o fod yn rhan o Wythnos Gynaliadwyedd Cymru, ac yn cynnig cyfle gwych i arddangos yr ystod eang o ymchwil sydd yn cael ei wneud gan ein hadrannau academaidd er mwyn mynd i’r afael â materion sydd yn ymwneud a chynaliadwyedd.
“Mae gennym hefyd raglen o ddigwyddiadau rhyngweithiol sydd yn arddangos rhai o’r cynlluniau pwysig sydd wedi cael eu sefydlu gan y Brifysgol er mwyn cynorthwyo i leihau’r effaith ar yr amgylchedd. Maent yn cynnwys cynlluniau ailgylchu arloesol gan Undeb y Myfyrwyr, camau i arbed ynni, ein bwyty ar y campws sydd wedi ei wobrwyo nifer o weithiau ac sydd yn cynnig bwydlen o fwyd cartref a chynnyrch lleol a thrafnidiaeth gynaliadwy.” he added.
Rhaglen ddigwyddiadau Wythnos Cynaliadwyedd Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Trwy Gydol yr Wythnos - Bydd gan TaMedDa – y bwyty ar y campws sydd wedi ennill gwobrau – ddewis arbennig o fwydydd wedi’u cynhyrchu’n lleol a rhai bwydydd sydd wedi’u cynhyrchu gan y Brifysgol (cliciwch yma am fanylion).
Dydd Llun
Lansio digwyddiadau’r wythnos dros frecwast yn TaMe Da yng nghwmni Elin Jones, AC Ceredigion a’r Gweinidog dros Faterion Gwledig. Bydd Uwch Dîm Rheoli’r Brifysgol ynghyd â gwirfoddolwyr o blith y myfyrwyr yn bresennol yn y brecwast a fydd yn cynnwys bwydydd sydd wedi’u cynhyrchu’n lleol a chan y Brifysgol.
Dydd Llun12-2pm
Diffoddwch e’!
Gwahoddir staff a myfyrwyr y Brifysgol i ddiffodd unrhyw declynnau diangen yn ystod amser cinio. Y bwriad yw tynnu sylw at yr eitemau hynny sy’n cael eu rhoi ymlaen bob dydd ond nad ydynt yn cael eu defnyddio – y golau yn y stordai, yr argraffydd yn barod i’w ddefnyddio. Cyhoeddir ddydd Gwener faint o egni a arbedwyd. Dyfernir gwobr i’r man sydd wedi arbed y mwyaf o egni mewn adeilad.
Dydd Llun 5.30pm
‘Investing in Energy Security. Do short-term gains solve long-term problems?’
Cyflwyniad gan Dr Malcolm Butler, Rheolwr Gyfarwyddwr Ewrop, eCORP International ac Ymgynghorydd ar Egni i Seymour Pierce Limited.
Yn agored i Staff Prifysgol Aberystwyth ond mae’r llefydd yn gyfyngedig felly cofrestrwch er mwyn mynychu drwy gysylltu â: ccservices@aber.ac.uk / 01970 628753
Dydd Mawrth 1.00pm
Taith eco o gwmpas y campws – Methu â gwahaniaethu rhwng pinwydd a phetwnias?
Os felly, gallai taith o gwmpas y campws yng nghwmni tywysydd a fydd yn cyfeirio at fflora a ffawna fod yr union beth ichi. Dewch draw i’r Ganolfan Chwaraeon am 1.00 pm i ddarganfod mwy am yr egin a chlywed cân yr adar ar y llwybrau cerdded newydd ar y campws. Mae’n sicr yn well nag eistedd yn gwylio’r astroturf yn tyfu!
Dydd Mercher
Diwrnod ‘Beicio i’r Gwaith’
Anelwch at leihau eich ôl troed carbon drwy ymuno yn ein cynllun ‘beicio i’r gwaith’. Bydd y sawl a fydd yn cymryd rhan yng nghynllun ‘beicio i’r gwaith’ y Brifysgol yn lansio’r fenter yn swyddogol.
8.00 - 9.00am
Brecwast Beicio i’r Gwaith
Bydd aelodau o staff a myfyrwyr a fydd yn beicio i’r gwaith yn gymwys i dderbyn brecwast am ddim mewn mannau penodol – Gogerddan – Penglais (TaMed Da) – Llanbadarn (Adeilad Stapledon).
3.00 – 5.00 pm
Beicio’n Ddoeth
Bydd arddangosfeydd ar gampws Penglais yn cynnwys:
Gweithdy am ddim ar archwilio a chynnal a chadw beic (Summit Cycles / Continental Tyres); beicio’n ddiogel.
4.00pm
Beicio fel Grŵp o Lanbadarn i Benglais er mwyn mynychu Beicio’n Ddoeth.
Grŵp wedi’i drefnu o feicwyr sydd â diddordeb i feicio gyda’i gilydd o gampws Llanbadarn i gampws Penglais. Byddant yn cael eu harwain gan stiward a fydd wedi’i enwebu.
4.00pm
Beicio fel Grŵp o Gogerddan i Benglais er mwyn mynychu Beicio’n Ddoeth.
Grŵp wedi’i drefnu o feicwyr sydd â diddordeb i feicio gyda’i gilydd o gampws Gogerddan i gampws Penglais. Byddant yn cael eu harwain gan stiward a fydd wedi’i enwebu.
Dydd Iau 12.00 hanner dydd
Lansio ymgyrch newydd a chyffrous Undeb y Myfyrwyr, sef “Ailddefnyddiwch e’”. Fel rhan o’r cynllun bydd y myfyrwyr yn casglu deunyddiau a fydd yn cael eu gadael yn neuaddau’r myfyrwyr ar ddiwedd y tymor, yn eu cadw ac yna’n eu gwerthu i fyfyrwyr a fydd yn dod i’r neuaddau ar ddechrau tymor 2010-11. Bydd yr elw a wneir yn cael ei roi i elusen a bydd unrhyw fwyd nad yw wedi ei ddifetha yn cael ei roi i gartref lleol ar gyfer ieuenctid o dan anfantais.
Dydd Gwener 12.30pm
Dathlu Llwyddiant Cynaliadwy
Bydd myfyrwyr a staff yn esbonio graddfa polisïau cynaliadwyedd ac arferion cynaliadwy’r Brifysgol mewn seremoni arbennig yn Undeb y Myfyrwyr, a chyhoeddir canlyniadau arbedion egni’r wythnos, y nifer o bobl a gymerodd ran yn y cynllun beicio i’r gwaith, mentrau cynaliadwyedd bwyd, y nifer o fagiau ailgylchu a ddefnyddiwyd ayb.