Yr Iaith Gymraeg

Golygfa o'r awyr o Aberystwyth

Shwmai a chroeso i Brifysgol Aberystwyth.

Mae’r Gymraeg yn iaith fyw yn Aberystwyth a thrwy Gymru gyfan.  

Oeddech chi’n gwybod bod 562,000 o bobl (19%) yn siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2011, ac yng Ngheredigion bod tua hanner (47.3%) y boblogaeth yn siarad Cymraeg?  

Mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru ag iddi statws cyfartal â’r Saesneg. Mae hyn yn golygu y gwelwch chi’r ddwy iaith yn cael eu defnyddio ar arwyddion ac arddangosiadau, cewch eich cyfarch yn ddwyieithog ar y ffôn a chaiff gwasanaethau eu cynnig yn Gymraeg neu’n Saesneg. 

Nod strategaeth Llywodraeth Cymru Cymraeg 2050 yw cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac mae’n cydweithio’n agos gyda holl sectorau a chymunedau Cymru i godi ymwybyddiaeth, hyrwyddo ac annog defnydd o’r Gymraeg. Yn ôl Canlyniadau Cyfrifiad Ysgolion Llywodraeth Cymru 2019, caiff 23% o ddisgyblion yng Nghymru eu haddysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. 

Ystyrir Ceredigion yn un o gadarnleoedd traddodiadol y Gymraeg. Defnyddir y Gymraeg yn eang yn y gweithle, mewn addysg, gartref, ac mae hefyd yn rhan hanfodol o gymunedau, sefydliadau, clybiau a chymdeithasau lleol. 

Dyma ffeithiau am y Gymraeg:

Ffeithiau am y Gymraeg 

Dysgu Cymraeg

Oeddech chi’n gwybod mai’r Gymraeg yw un o’r ieithoedd sy’n tyfu gyflymaf yn y DU yn ôl Duolingo? 

Yn ystod eich cyfnod yn Aberystwyth, gallech ddymuno dysgu Cymraeg. Mae digon o gyfleoedd i wneud hyn yma yn y Brifysgol. 

Os ydych chi dan 25, gallwch gofrestru ar gwrs Cymraeg am ddim. I gael rhagor o wybodaeth am ddysgu Cymraeg yn ystod eich amser yn Aberystwyth, e-bostiwch: learnwelsh@aber.ac.uk neu ewch i dudalen gwe Dysgu Cymraeg.

Y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth

Sefydliad dwyieithog yw Prifysgol Aberystwyth gyda’r Gymraeg yn cael ei defnyddio fel mater o drefn wrth addysgu a gweinyddu. Efallai y sylwch ein bod yn cynnig ystod eang o fodiwlau a chynlluniau gradd cyfrwng Cymraeg. Gall myfyrwyr astudio pob modiwl yn Gymraeg mewn rhai adrannau neu ddewis a dethol modiwlau Cymraeg a Saesneg er mwyn astudio’n ddwyieithog mewn adrannau eraill. Mae gan fyfyrwyr hefyd yr hawl i gyflwyno gwaith i’w asesu a sefyll arholiadau yn Gymraeg. 

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithredu polisi dwyieithog i sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Er enghraifft, bydd gohebiaeth gyffredinol i fyfyrwyr yn ddwyieithog yn ogystal â deunydd arddangos, gwasanaethau ffôn, gwefannau a gwasanaethau ar-lein. Mae gan fyfyrwyr hefyd yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfodydd â’r brifysgol ac os bydd angen caiff gwasanaethau cyfieithu ar y pryd eu darparu i hwyluso hyn.  

Mae hyn yn unol â deddfwriaeth y Gymraeg. Mae’r darn diweddaraf o ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r Gymraeg, Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn gosod fframwaith cyfreithiol sy’n rhoi dyletswydd ar Brifysgolion, ynghyd â sefydliadau eraill yng Nghymru, i gydymffurfio â Safonau’n ymwneud â’r Gymraeg. 

Diben Safonau’r Gymraeg yw rhoi mwy o hawliau i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd. Disgwylir i Brifysgolion ddatblygu defnydd o’r Gymraeg ymhellach ar sail yr egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Mae gan y Brifysgol ei strategaeth ei hun ar y Gymraeg. Mae Is-Strategaeth Iaith a Diwylliant Cymraeg 2019-23 yn amlygu’r prif weithgareddau sy’n golygu bod Prifysgol Aberystwyth yn sefydliad dwyieithog uchelgeisiol sy’n hwyluso ac yn hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg. Drwy gyfres o addunedau mae ‘Addewidion Aber yn amlygu ymrwymiad y Brifysgol i’r Gymraeg a sut rydym ni’n cynnig profiad Cymraeg i fyfyrwyr. 

 Ceir rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau Cymraeg a ddarparwn yma: https://www.aber.ac.uk/cy/cgg/bilingual-policy/  
 

Llety cyfrwng Cymraeg

Mae Aberystwyth yn cynnig dewis o lety cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg neu’n ddysgwyr a hoffai fyw a chymdeithasu mewn amgylchedd Cymraeg. Mae llety cyfrwng Cymraeg yn gadael i fyfyrwyr fyw a chymdeithasu yn Gymraeg, cyfarfod â siaradwyr Cymraeg eraill o bob rhan o Gymru ac yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr gael eu trwytho yn yr iaith. 

 

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cydweithio’n agos gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC) i ddatblygu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio yn Gymraeg, pa bynnag bwnc maen nhw’n ei astudio. Mae’r CCC yn gweithio i gynyddu a sicrhau mwy o gyfleoedd i astudio yn Gymraeg, cyllido ysgoloriaethau a datblygu modiwlau a chyrsiau i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Mae cangen Prifysgol Aberystwyth o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yng Nghanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg y Brifysgol. Mae’r gangen yn cefnogi gwaith y Coleg ac yn gweithredu fel man cyswllt i fyfyrwyr. Gallwch gysylltu â nhw drwy aberystwyth@colegcymraeg.ac.uk.

Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg

Mae Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg yn hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ac yn cefnogi’r Brifysgol i weithredu’n ddwyieithog. Mae gwaith y Ganolfan yn cynnwys cefnogi adrannau academaidd i ddatblygu prosiectau cyfrwng Cymraeg, darparu gwasanaeth cyfieithu, cynnig gwasanaeth cymorth cynhwysfawr i staff a myfyrwyr yn Gymraeg a sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg. 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ar sut y caiff y Gymraeg ei defnyddio ym Mhrifysgol Aberystwyth, cysylltwch â canolfangymraeg@aber.ac.uk.

UMCA

Sefydlwyd UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth) yn 1973, ac mae’n undeb o fewn undeb y myfyrwyr sy’n cynrychioli myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg a’r rheini sy’n dysgu Cymraeg. Os hoffech ddysgu mwy am UMCA, mae croeso i chi gysylltu â’r undeb: umca@aber.ac.uk.