Ymgartrefu
Find out about your surroundings, the many societies and sports on offer, how to get help and support, and meet and make new friends.
Mae yna gyfoeth o gyngor a chefnogaeth ar gael i chi yn ystod eich dyddiau cyntaf yn Aberystwyth er mwyn eich helpu i ymgartrefu i fywyd prifysgol.
Byddwn yn gallu eich cynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych trwy ein gwasanaethau cymorth rhithwir (www.aber.ac.uk/cy/student/help/).
Gwasanaethau rhithwir
P'un ai a oes angen cymorth technegol arnoch gan ein tîm Gwasanaethau Gwybodaeth, neu os oes gennych ymholiadau ynglŷn â dod o hyd i adnoddau, neu angen cyngor ar sut i gael gafael ar wasanaethau, a sut i gofrestru, rydym yma i helpu!
Mae ein tudalen we Cymorth a Chyngor i Fyfyrwyr yn darparu dolenni defnyddiol i wasanaethau allweddol, gan amlinellu'r ffyrdd y gallwch gysylltu o bell i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Medrwch gynnal sgwrs ar-lein; trefnu Apwyntiad Microsoft Teams; defnyddio llinellau cymorth ffôn, neu gysylltu trwy e-bost gyda’n adnoddau a chefnogaeth Cwestiynau Cyffredin ar-lein. Mae’n golygu bod gennych fynediad i ystod o wasanaethau.
Ar ôl cyrchu ein gwasanaethau rhithwir, efallai y cewch eich cynghori i ymweld ag un o'n desgiau cymorth, neu gael amser apwyntiad ar gyfer gwasanaeth penodol.
Mae ein Gwasanaethau i Fyfyrwyr yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol, myfyrwyr anabl, myfyrwyr sydd angen help gyda materion iechyd meddwl a lles a chyflogadwyedd. Gall y tîm hefyd gynghori os oes gennych unrhyw bryderon am arian a byddant yn cynnal amrywiaeth o gynlluniau mentora i'ch helpu chi i setlo i fywyd prifysgol. Os ydych chi'n teimlo fel pe bai pwysau’r byd ar eich ysgwyddau, neu'n hiraethu am adref, neu'n poeni am fyfyriwr arall, peidiwch â phoeni, rydyn ni yma i helpu.
Mae'r Ddesg Gwasanaethau TG a Llyfrgell (Gwasanaethau Gwybodaeth) ar gael trwy sgwrs ar-lein, ffôn, e-bost a Microsoft Teams: 08: 30-17: 30 o ddydd Llun i ddydd Sul.
Edrych ar eich ôl eich hun
Gall pontio i fywyd prifysgol ddod â llawer o gyfleoedd, a all fod yn hawdd i rai, ac yn anoddach i eraill.
Profiadau cyffredin
- hiraeth wrth i chi ddod i arfer â ffordd newydd o fyw a bod oddi cartref, ac o bosibl sioc ddiwylliannol os ydych yn addasu i ddiwylliant newydd
- anhawster wrth addasu i fywyd myfyrwyr, gan y bydd eich trefn arferol yn newid i gyd-fynd â'ch amserlen newydd
- gweld newidiadau i sut rydych chi'n rheoli eich ffordd o fyw, er enghraifft faint rydych chi'n ei fwyta, yn yfed alcohol, yn cymdeithasu neu'n siopa
Gofalwch amdanoch chi eich hun
- gofalwch eich bod yn cymdeithasu a meithrin eich rhwydwaith o ffrindiau, drwy sgwrsio â ffrindiau yn y dosbarth, darlithwyr a chymdogion, ymuno â chlybiau a chymdeithasau, cymryd rhan mewn digwyddiadau, gwirfoddoli a chyfleoedd profiad gwaith
- ceisiwch osgoi ynysu eich hun, a chadwch mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau
- cofiwch yfed digon o ddŵr a chadw wedi’ch hydradu, yn enwedig os ydych yn yfed alcohol
- ceisiwch fwyta deiet cytbwys ac osgoi gormod o fwyd cyfleus
- cofiwch sicrhau eich bod yn cael noson dda o gwsg
- cofiwch ymarfer corff i helpu gynnal iechyd corfforol a meddyliol da
- cofiwch ofyn am gymorth os ydych chi ei angen - mae gan y brifysgol amrywiaeth o wasanaethau yn ogystal â'r hyn y bydd eich ysgol yn ei gynnig, a all eich cefnogi gydag ystod o bryderon
Os ydych yn byw mewn llety prifysgol, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi siarad â'ch tîm Bywyd Preswyl yn y lle cyntaf.
Cyngor pellach
Os oes problemau yn eich poeni yn ystod eich amser yn y Brifysgol, waeth pa mor fawr neu fach, mae'r Gwasanaeth Lles yma i'ch helpu.
Cael y newyddion diweddaraf
Rydym am sicrhau eich bod yn derbyn y newyddion a'r arweiniad diweddaraf gennym i helpu i'ch cefnogi drwy gydol eich bywyd fel myfyriwr.
Eich ebost prifysgol
Mae myfyrwyr wedi dweud wrthym mai ebost yw'r ffordd orau o gysylltu â nhw.
Gwiriwch eich negeseuon ebost bob dydd i sicrhau eich bod yn derbyn gwybodaeth bwysig sy'n berthnasol i chi. Bydd hyn yn cynnwys:
- Negeseuon gan yr Is-Ganghellor a Ddiprwy Is-Ganghellor
- Negeseuon adrannau academaidd yn benodol am eich ysgol a'r newidiadau y maent yn eu gwneud a fydd yn effeithio arnoch chi a'ch astudiaethau.
- Bwletin Wythnasol yw eich cylchlythyr wythnosol, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am newidiadau a newyddion pwysig.
- Adrannau gwasanaethau proffesiynol sy'n cynnig lleoliadau profiad gwaith.
- Anfonir negeseuon ebost penodol sy'n ymwneud â gwahanol grwpiau o fyfyrwyr at fyfyrwyr rhyngwladol, ôl-raddedigion a myfyrwyr mewn llety prifysgol, gan ddarparu gwybodaeth benodol sy'n ymwneud â'u hamgylchiadau unigryw.
Mae'n siŵr y byddwch yn derbyn negeseuon ebost eraill yn eich mewnflwch ond cadwch olwg am y rhai sy'n dod o gyfeiriad @aber.ac.uk.
Byddwch yn ofalus a diogelwch eich hun rhag negeseuon ebost sgam.
ApAber
Ap i chi, fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, yw ApAber - i’w gwneud hi’n haws ichi gynllunio eich diwrnod. Gellir lawrlwytho ApAber cyn i chi ddod i’r Brifysgol felly ewch ati i wneud hyn NAWR! Ceir rhagor o wybodaeth am ApAber, gan gynnwys sut i’w lawrlwytho yma: www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/apaber
Mynd o le i le
Mae Campws Penglais yn hygyrch gyda digon o fannau agored a gwyrdd i’w mwynhau. Mae’n rhwydd iawn mynd o gwmpas y campws a’r ddre ar droed neu ar feic.
Lawrlwythwch ApAber i ddarganfod eich ffordd o gwmpas y campws.
Dewch â beic gyda chi
Os ydych chi'n berchen ar feic, beth am ddod ag ef gyda chi, ynghyd â helmed a chlo D diogel? Mae beicio yn ffordd iach, werdd a hwyliog o deithio o amgylch y dre. Mae'r Brifysgol yn darparu cyfleusterau storio diogel mewn preswylfeydd ac o amgylch adeiladau'r campws.
Teithio i Aber
Teithio ar y Trên
Mae gwasanaethau trên yn rhedeg yn rheolaidd i Aberystwyth o Ogledd Cymru ac o Ganolbarth Lloegr (mae pob gwasanaeth o gyfeiriad y dwyrain yn mynd drwy Amwythig). Am wybodaeth gyfredol am wasanaeth trên, cyfeiriwch at wefan Trafnidiaeth Cymru.
Teithio ar y Bws
Mae gwasanaethau bws rheolaidd yn cael eu gweithredu gan y National Express, MegaBus a gwasanaethau lleol ar gael trwy Traveline Cymru.