Ein staff

Arweinydd cerddorfa

Rydyn ni'n dîm bach ond yn brofiadol ac yn frwdfrydig. Gweler ein manylion cyswllt isod a darllenwch mwy am ein cefndir a'n profiad.

Mae Cerdd yn Aber yn edrych ymlaen at flwyddyn wedi'i llenwi â phob math o ddigwyddiadau cerddorol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2024-25.

Iwan Teifion Davies - Cyfarwyddwr Cerdd

Iwan Teifion Davies yw’r Cyfarwyddwr Cerdd ac arweinydd Philomusica Aberystwyth. Fe’i hyfforddwyd yn Ysgol Gerddoriaeth a Drama y Guildhall ac yn y Stiwdio Opera Genedlaethol yn Llundain, lle bu ynghlwm wrth nifer o berfformiadau mewn cydweithrediad ag Opera North, Scottish Opera, a Chwnmi Opera Cenedlaethol Cymru. Fe fu’n arweinydd staff yn y Salzburger Landestheater, lle arweiniodd y Mozarteum Orchester mewn perfformiadau o La Gazzetta (Rossini), The Trial (Glass), Wiener Blut (Strauss), a My Fair Lady. Fe yw Pennaeth Cerdd Gŵyl Ryngwladol Buxton, lle mae wedi arwain cynyrchiadau o Cendrillion (Viardot), Viva la Diva (Donizetti) a premier operetta newydd sy’n defnyddio cerddoriaeth Ivor Novello, The Land of Might-Have-Been. I OPRA Cymru, mae wedi arwain premier byd opera Gareth Glyn, Wythnos yng Nghymru Fydd, Fidelio, Così fan tutte, ac ail opera Glyn, Un Nos Ola Leuad, gyda cherddorfa’r Cwmni Opera Cenedlaethol, sydd bellach yn cael ei throi’n ffilm. I English Touring Opera bu’n arwain La bohème a The Golden Cockerel (Rimsky-Korsakov). Fel cefnogwr brwd o gerddoriaeth Cymraeg, mae wedi comisiynu a pherfformio gweithiau newydd gan Claire Victoria Roberts, Pwyll ap Siôn, Gareth Olubunmi Hughes, Hana Lili, Jefferson Lobo, David Roche, Sarah-Lianne Lewis a Mared Emlyn.

Cysylltwch gydag Iwan ar iwd7@aber.ac.uk 

James Cook - Gweinyddwr Cerdd

 

Ymunodd James â’r Brifysgol ym mis Mai 2023 gan weithio’n rhan amser i Cerdd@Aber fel Gweinyddwr Cerddoriaeth y Brifysgol. Mae'n rhoi cefnogaeth i Iwan, myfyrwyr a'r tîm.

Cysylltwch gydag James ar jac142@aber.ac.uk

Dr David Russell Hulme - Darllenydd Emeritws

Dr David Russell Hulme oedd Cyfarwyddwr Cerdd y Brifysgol o 1992 tan 2020. Yn sgil cau'r Adran Gerdd, sefydlodd y Ganolfan Gerdd gan ddod â'r Brifysgol a'r gymuned ynghyd mewn rhaglen eithriadol lwyddiannus. Y mae’n gyn-fyfyriwr Cerdd o Aber, fe astudiodd gyda'r arweinydd chwedlonol Syr Adrian Boult, a dilyn gyrfa gyfochrog gan deithio yn Awstralia, Seland Newydd, yr Unol Daleithiau, a Chanada, yn fwyaf nodedig yn brif arweinydd gyda chwmni Opera Carl Rosa. Mae Dr Hulme yn hyrwyddwr brwd o gerddoriaeth Brydeinig, cyrhaeddodd ei recordiad Naxos o 'Tom Jones' gan Edward German Rif 3 yn y siartiau clasurol a chael canmoliaeth gynnes gan feirniaid cerdd. Ar hyn o bryd mae'n arweinydd gwadd gyda Cherddorfa Symffoni Zaporozhye yn yr Wcráin.

Dywedwyd amdano yn 'Opera' mai ef yw 'ein prif awdurdod ar lawysgrifau Sullivan'. Mae Dr Hulme wedi cyhoeddi'n helaeth, gan gynnwys argraffiadau beirniadol ar gyfer Gwasg Prifysgol Rhydychen yn amrywio o Sullivan i 'Paukenmesse' gan Haydn, ac ail symffoni Walton. Cydweithiodd â'r cyfansoddwr ffilm Neil Brand a chyda John Wilson ar drefniadau cerddorol. Cafodd gwaith diweddar ei berfformio gan gerddorfeydd Symffoni a Chyngerdd y BBC a chael eu perfformio am y tro cyntaf yn Neuadd Frenhinol Albert a'r Barbican.

Yn 2012 dyfarnwyd Medal Glyndŵr i Dr Hulme am ei 'gyfraniad eithriadol i'r celfyddydau yng Nghymru.' Mae'n Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, yn Is-lywydd Cymdeithas Syr Arthur Sullivan, ac Arweinydd Emeritws Philomusica Aberystwyth.

Rhestr gyfredol o gyhoeddiadau: Porth Ymchwil 

Arweinyddion

Isobelle McGuinness - Simply Strings

Bywgraffiad i ddilyn

Rhys Taylor - Band Chwyth

Bywgraffiad i ddilyn

Sam Holman - Grŵp Jamio

Bywgraffiad i ddilyn

Tiffany Evans - Côr Cinio

Bywgraffiad i ddilyn