Mae'r prosiect ymchwil hwn, a ariennir gan yr Academi Brydeinig, yn ymdrin â hanes 'anghofiedig' yn nhrefedigaethedd Ffrainc. Yn 1924, er mwyn hyrwyddo ideoleg drefedigaethol, anfonwyd sawl grŵp o fyfyrwyr elitaidd i wahanol rannau o'r Ymerodraeth Ffrengig, i fod yn dystion i ragoriaeth 'cenhadaeth drefedigaethu' Ffrainc ac i ddod yn hyrwyddwyr iddi ar ôl dychwelyd – heddiw byddem yn eu galw'n 'ddylanwadwyr’ dros yr achos trefedigaethol. Fodd bynnag, methodd y teithiau â chyflawni eu nod, ac ni chawsant unrhyw ganlyniadau pendant. Yn y pen draw, aeth y teithiau hyn yn angof, ac nid oeddent yn hysbys ym myd ysgolheictod chwaith.
Darganfu Dr Gelléri dystiolaeth archifol o un o’r teithiau hyn, lle teithiodd grŵp o ferched yn unig i Indotsieina, sef Fietnam a Chambodia heddiw. Yn dilyn hynny, llwyddodd i ganfod enwau’r rhai a gymerodd rhan yn y daith a chwrdd â'u disgynyddion, a rannodd amrywiaeth o ddeunyddiau gydag ef nad oeddent wedi’u cyhoeddi: ysgrifau teithio a channoedd o ffotograffau. Trwy'r cyfrifon hyn, rydym yn darganfod stori ddiddorol. Ar y naill law, roedd y myfyrwyr yn teithio mewn moethusrwydd: roeddent yn gwisgo dillad cynllunydd, cawsant gwrdd â'r elitiau lleol, a rhyfeddu at olygfeydd Angkor a Bae Halong. Ar y llaw arall, cafodd y daith ei difetha gan wrthdaro: roedd gwrthdaro mewnol, anghytundebau gyda'r trefnwyr a darganfu'r myfyrwyr hefyd ochr dywyll i drefedigaethedd.
Mae'r astudiaeth achos unigryw hon yn rhoi cipolwg ar amrywiaeth o bynciau. Rydym yn cael gwell dealltwriaeth o'r profiad o drefedigaethedd a bywyd yn dilyn trefedigaethedd, a dyddiau cynnar twristiaeth drefedigaethol. Ond mae'r prosiect hefyd yn cynnig cipolwg ar sut beth oedd bod yn fyfyriwr benywaidd yn y 1920au, yn Ffrainc ei hun ac yn y trefedigaethau. Nod y prosiect, y tu hwnt i gyhoeddiadau ysgolheigaidd, yw creu arddangosfa a ffilm ddogfen.