Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg
Rydym fel adran yn cynnal darpariaeth eang trwy’r Gymraeg ymhob un o’r cyrsiau rydym yn ei gynnig.
Gall myfyrwyr ddewis astudio elfennau o bob modiwl yn y flwyddyn gyntaf trwy’r Gymraeg.
Mae’n bosib hefyd iddynt astudio elfennau o dros hanner eu modiwlau trwy’r Gymraeg yn yr ail flwyddyn a dros hanner o’u modiwlau yn y drydedd. Yn ogystal â hynny, mae nifer o’r prosiectau unigol rydym yn eu cynnig ar lefel meistr ar gael yn gyfan gwbl trwy’r Gymraeg.
Pam astudio Mathemateg trwy’r Gymraeg?
Mae nifer o resymau dros astudio’r pwnc trwy’r Gymraeg ar lefel prifysgol, gan gynnwys y rhai canlynol:
- Pontio ag astudiaethau ysgol: Mae nifer o fyfyrwyr yn dod i’r brifysgol wedi astudio lefel A mewn mathemateg yn gyfan gwbl trwy’r Gymraeg. Mae’r cyfleoedd i astudio trwy’r Gymraeg yn y brifysgol yn hwyluso’r naid rhwng astudiaethau ysgol a phrifysgol
- Cyfleoedd newydd: Mae rhai myfyrwyr yn dewis astudio mathemateg trwy’r Gymraeg am y tro cyntaf gyda ni. Mae natur ddwyieithog ein darpariaeth yn caniatáu i’r myfyrwyr hynny i ddatblygu mwy o hyder yn y pwnc a’r iaith. Caiff hyn ei atgyfnerthu gan y cyfleoedd sydd ar gael i fod yn rhan o’r gymuned Gymraeg hyfyw sydd yma yn yr adran a’r brifysgol
- Sgiliau cyflogadwyedd: Mae myfyrwyr sy’n astudio cyfran o’u cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg yn datblygu gallu i ymdrin â’r pwnc yn y ddwy iaith. Felly, yn ogystal â datblygu sgiliau mathemategol, byddant yn naturiol yn datblygu sgiliau trawsieithu a fydd yn fanteisiol iddynt yn y byd gwaith
- Cefnogaeth Ariannol: Cefnogir ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae nifer o’n graddau’n gymwys ar gyfer Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg. Yn ogystal â hynny, mae rhai o’n graddau cyfun hefyd yn gymwys ar gyfer prif ysgoloriaeth y Coleg. Gallwch ddarllen mwy am ysgoloriaethau’r Coleg yma. Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn cynnig ysgoloriaethau gwerth hyd at £400 y flwyddyn am ddilyn rhan neu’r cyfan o’ch cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
Gallwch ddarllen mwy am yr hyn sydd gan rai o’n cyn fyfyrwyr i’w ddweud am ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yma.
Os ydych angen mwy o wybodaeth am astudio Mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, cysylltwch ag un o ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg yr Adran Fathemateg, Dr Tudur Davies neu Dr Gwion Evans, neu gyrrwch neges ebost i maths@aber.ac.uk.