Profiadau ein myfyrwyr

Dyma beth oedd gan rai o'n cyn fyfyrwyr i'w ddweud am ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg:

 

Angharad Haf EvansAngharad Haf Evans - BSc Mathemateg

Nodwedd bwysig iawn i mi wrth ddewis pa Brifysgol y buaswn yn astudio ynddi oedd y gallu i gael astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, ac roedd y cyfle i gael mwynhau mathemateg yn y Gymraeg yn un o’r pethau yr oeddwn yn ei werthfawrogi fwyaf wrth astudio'n Aber. Mae cefnogaeth gref ar gael yn yr Adran i’r rhai sydd eisiau dysgu’n Gymraeg, ac mae hyn yn sicrhau fod myfyrwyr fel fi yn datblygu'r sgil werthfawr o ddwyieithrwydd.

Rhian Wyn JonesRhian Wyn Jones - BSc Mathemateg ac Addysg

Wedi i mi raddio, rydw i wedi bod yn ffodus iawn i gael cynnig lle ar Raglen Athrawon Graddedig lle byddaf yn gweithio fel athrawes Mathemateg hyfforddedig yn Ysgol Henry Richard. Dyma’r ysgol lle bum ar leoliad gwaith tra’n astudio'r modiwl MT39020 Cyflwyniad i Addysgu mewn Ysgol Uwchradd yn ystod fy mlwyddyn olaf. Fe wnes i fwynhau'r profiad hwnnw yn fawr iawn ac rydw i wir wedi manteisio o gymryd rhan yn y modiwl, felly byddwn i'n annog unrhyw fyfyriwr Mathemateg sydd â diddordeb mewn addysgu i ystyried y modiwl yma er mwyn cael blas o addysgu Mathemateg.

Sion Eilir Pryse - BSc Mathemateg

Roedd yn braf cael dilyniant i’m haddysg ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg; rwyf bellach yn medru ymdrin â’r pwnc yn naturiol ddwyieithog. Roedd yn hyfryd cael naws gartrefol yn y tiwtorialau, ac roedd cymorth parhaol y darlithwyr yn amhrisiadwy.

Caryl-Mai EvansCaryl-Mai Evans - BSc Mathemateg

Cymraeg yw fy iaith gyntaf felly roedd hi’n ddewis naturiol astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n rhaid cyfaddef fod astudio agweddau drwy’r Gymraeg wedi hwyluso’r cwrs i mi. Yn y dyfodol, fy ngobaith yw dysgu mathemateg mewn ysgol uwchradd, felly rwy’n teimlo bod gen i fwy i gynnig gan fy mod yn gallu cynnig addysg ddwyieithog.

Mari Llifon JonesMari Llifon Jones - BSc Mathemateg

Mae gen i fwy o hyder i ofyn am gymorth a thrafod anhawsterau mewn sesiynau tiwtorial Cymraeg, felly credaf fy mod yn cael gwell cyfle i ddeall y gwaith. Erbyn hyn mae pwyslais yn tyfu ar werth y Gymraeg yn y gweithle, felly gobeithiaf fod gennyf well siawns o gael swydd yng Nghymru na rhywun sydd ddim wedi astudio drwy’r Gymraeg.

 

Gallwch ddarllen mwy am beth sydd gan ein graddedigion i'w ddweud yma.