Teyrngedau i gyn Bennaeth Adran, Yr Athro Noel Lloyd
10 Mehefin 2019
Mae teyrngedau wedi eu talu i’r Athro Noel Lloyd, cyn Is-Ganghellor a Phennaeth yr Adran Fathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth, a fu farw yn 72 oed.
Dechreuodd yr Athro Lloyd ar ei yrfa academaidd yng Nghaergrawnt lle bu’n astudio Mathemateg. Yno aeth ymlaen i gwblhau ei ddoethuriaeth ac i fod yn Gymrawd Ymchwil yng Ngholeg Sant Ioan. Dadansoddi Aflinol a Systemau Dynamegol oedd ei ddiddordebau ymchwil.
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure: “Gwnaeth yr Athro Lloyd gyfraniad aruthrol i addysg uwch, nid yn unig fel ein Is-Ganghellor am saith mlynedd ond fel Mathemategydd o fri. Roedd yn ŵr hynod egwyddorol, deallus, trugarog a diflino ei gyfraniad, ac mae’n gadael bwlch mawr ar ei ôl.”