Gwobrau i Staff a Myfyriwr Mathemateg
08 Ebrill 2019
Derbyniodd Panna Karlinger, myfyriwr mathemateg, y wobr Myfyriwr-Fentor y Flwyddyn yn noson Wobrau Staff a Myfyrwyr 2019 Undeb Myfyrwyr Aberystwyth. Mae Panna yn y flwyddyn olaf o radd gyfun mewn Mathemateg ac Addysg, a chafodd hefyd ei henwebu ar gyfer Cynrychiolydd Academaidd y Flwyddyn am ei gwaith ar Bwyllgor Ymgynghorol Myfyrwyr-Staff yr adran.
Cafodd y Wobr Arwain Cydraddoldeb ei dyfarnu i Adam Vellender, darlithydd Mathemateg, am ei waith i sicrhau fod cynnwys ei fodiwlau’n hygyrch i fyfyrwyr sydd â nam golwg.
Cafodd yr Adran Fathemateg hefyd ei enwebu am deitl Adran y Flwyddyn, ond ni lwyddodd i ddal ei gafael ar y wobr a enillodd y llynedd.
Mae’r gwobrau blynyddol yn dathlu cyfraniadau eithriadol staff, myfyrwyr, cynrychiolwyr academaidd ac adrannau ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Cynhelir y gwobrau gan Undeb Myfyrwyr Aberystwyth gyda chefnogaeth y Brifysgol, ac eleni cynhaliwyd y seremoni wobrwyo ar ddydd Mawrth, 2il o Ebrill 2019, yn Neuadd Fawr Canolfan Celfyddydau Aberystwyth.
Mae’r gwobrau bellach yn ei wythfed flwyddyn, ac eleni derbyniwyd 280 o enwebiadau mewn 15 categori, gyda phob gwobr yn cael ei enwebu, ei ddyfarnu a’i gyflwyno gan fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.