Anrhydeddu darlithydd mathemateg am waith iaith
19 Mawrth 2018
Mae darlithydd o Brifysgol Aberystwyth wedi ei anrhydeddu am ei waith yn hyrwyddo mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyflwynwyd Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan i Dr Tudur Davies, darlithydd yn Adran Mathemateg Prifysgol Aberystwyth yng nghynulliad blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ddydd Mercher 7 Mawrth 2018
Dyfarnir Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan i unigolion ifanc sydd yn flaengar ym maes ymchwil y gwyddorau ac am addysgu’r gwyddorau trwy gyfrwng y Gymraeg mewn sefydliad addysg uwch.
Graddiodd Dr Tudur Davies mewn Mathemateg o Brifysgol Aberystwyth yn 2005 a cwblhaodd radd Meistr mewn Hylifau Cymhleth yn 2006.
Dyfarnwyd iddo ddoethuriaeth yn 2010 am ei ymchwil ar fodelu'r rhyngweithiad rhwng ewyn hylif a gwrthrychau caled trwy ddefnyddio efelychiadiadau rhifiadol. Yna, bu'n gweithio fel Cynorthwydd Ymchwil ar brosiect Sefydliad Cyfrifiadura Gweledol Cymru.
Dywedodd Dr Davies: "Mae'n anrhydedd mawr i mi dderbyn y wobr hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sefydliad sydd wedi rhoi cyfleon gwych i mi yn fy ngyrfa academaidd. Mae'n bleser gweithio gyda myfyrwyr sy'n frwdfrydig dros astudio Mathemateg trwy'r Gymraeg a chwarae rhan fach yn natblygiad y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael yn y pwnc ar lefel addysg uwch.”
Dywedodd Yr Athro Simon Cox, Pennaeth yr Adran Fathemateg: “Mae hwn yn gydnabyddiaeth haeddiannol o'r gwaith enfawr y mae Tudur yn ei wneud i hyrwyddo Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n aelod hanfodol o’r adran sy’n darparu addysg gyfrwng Gymraeg, ac mae'n llysgennad gwych i'r adran mewn ysgolion a cholegau o gwmpas y wlad.”